Ken Owens: ‘Dim byd o gwbl’ yn cael ei wneud am ddirywiad rygbi Cymru
Mae cyn-gapten Cymru, Ken Owens wedi dweud bod “dim byd o gwbl” yn cael ei wneud am ddirywiad rygbi yng Nghymru.
Wrth siarad ar S4C ar ôl colled Cymru yn erbyn yr Eidal dywedodd bod Cymru mewn lle gwaeth nag oeddynt adeg bygythiad streic chwaraewyr Cymru ym mis Chwefror 2023.
Ychwanegodd nad oedd pwrpas cael gwared ar Warren Gatland a gweddill y tîm hyfforddi nes bod Undeb Rygbi Cymru â chynllun ar gyfer y dyfodol.
“Mae dewis tîm a chwaraewyr - opinion yw hwnna,” meddai. “Mae pawb am gael gwahanol opinion a ‘na bywyd yndife.
“Y peth sy’n siom i fi ydi yn 2023 pan oedden ni yng nghanol y streic ac roeddwn i’n meddwl ein bod ni reit ar y lle isa’ i rygbi yng Nghymru, mewn dwy flynedd dwi’n meddwl ein bod ni’n waeth na ble oedden ni dwy flynedd yn ôl.
“Ac mae pobl yn eistedd lan fan ‘na yn y stand, beth maen nhw’n ei wneud amdano fe? Ar y foment so nhw’n gwneud dim byd o gwbl.
“Apparently ma bwrdd newydd gyda ni. Beth yw’r strategaeth? Beth yw’r plan am y gêm yng Nghymru? O’r gêm gymuned i’r gêm ranbarthol i’r gêm broffesiynol i’r tîm cenedlaethol?
“A nes bod ni’n sortio'r broblem yna mas, beth yw’r pwynt cael gwared ar Warren Gatland a’r hyfforddwyr?
“Dechreuodd gyda chael gwared ar Wayne Pivac a gobeithio bod Warren yn mynd i roi e rownd.
“Mae’n dangos bod problemau gyda ni sydd methu cael eu solfo drwy gael gwared a’r hyfforddwyr.
“Os ydyn ni am gael gwared ar Warren waeth i ni wneud e ar ôl yr hydref. Ni wedi cael review. Beth sy’n mynd i newid mewn chwe wythnos sydd am newid ein perfformiad yn y Chwe Gwlad?”
‘Cyfnod hollbwysig’
Ddydd Gwener fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru ddatgelu cynllun arfaethedig newydd i ariannu dyfodol rygbi proffesiynol.
Fe fydd pedwar rhanbarth rygbi Cymru yn parhau i gael eu hariannu am y pedair blynedd nesaf o leiaf yn ôl y cytundeb, medden nhw.
O dan y cytundeb newydd, fydd mewn lle tan 2029, fe fydd “cynnydd yn y buddsoddiad ariannol” y bydd y pedwar rhanbarth yn eu derbyn gan yr Undeb.
Bydd y cytundeb yn galluogi’r rhanbarthau i fuddsoddi rhagor yn eu carfanau, “gan gadw talent a chynnig cartref i chwaraewyr sydd wedi symud i ffwrdd i ddychwelyd i Gymru”.
Yn ôl Malcolm Wall, sydd yn Gadeirydd ar y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, sydd yn cynrychioli’r rhanbarthau, fe fydd y cytundeb yn “cefnogi’r gamp ar y lefel uchaf un”.
“Rydym mewn cyfnod hollbwysig o ran cwblhau’r cytundeb, ac fe fydd yn diogelu dyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru yn y tymor byr ac yn galluogi llwyddiant yn yr hirdymor,” meddai.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’n gêm gyda’r systemau a’r strwythurau cywir yn cael eu gosod oddi ar y cae, sydd wedi’u cynllunio i alluogi llwyddiant arno yn y dyfodol.”