![Y gwystlon yn gadael mewn ceir Y Groes Goch](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2025-02/y%20groes%20goch%20copy.png?itok=zsV5ZEY1)
'Mor emosiynol': Hamas yn rhyddhau gwystl sydd â theulu yn ne Cymru
Mae dyn sydd â theulu yn ne Cymru wedi cael ei ryddhau gan Hamas ddydd Sadwrn ar ôl cael ei gadw'n wystl am 16 mis.
Dyma'r cam diweddaraf yn y cadoediad rhwng Hamas a lluoedd Israel.
Cafodd Eli Sharabi, 52 ei ryddhau ddydd Sadwrn gyda dau wystl arall.
Mae Stephen Brisley, brawd yng nghyfraith un o'r gwystlon Eli Sharabi, 52 oed, yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Wrth wylio Eli yn cael ei ryddhau dywedodd Pete Brisley ei dad yng nghyfraith ei fod yn "wych" ei weld yn cael ei ryddhau.
"Mae mor, mor emosiynol," meddai wrth y BBC.
"Mae'n wych ei weld yn cael ei ryddhau, ond doeddwn i ddim yn disgwyl iddo edrych fel'na, mor, mor denau.
"Mae'n edrych fel ei fod wedi bod mewn gwersyll crynhoi (concentration camp), dydyn ni ddim yn gwybod os yw'n ymwybod ei fod wedi colli ei deulu, ei wraig a'i blant.
"Byddwn yn darganfod hynny yn yr oriau nesaf, achos mae ei fam a'i chwaer yn aros i gwrdd ag ef yn yr ysbyty.
"Dwi'n meddwl mai ei gwestiwn cyntaf fydd 'lle maen nhw?' Os wnaeth e eu gweld nhw'n cael eu llofruddio, mae e wedi gorfod byw gyda hwnna am y 15, 16 mis diwethaf."
Cyn cael eu rhyddhau cafodd y gwystlon eu hebrwng ar lwyfan a'u cwestiynu gan filwyr Hamas cyn cael eu rhyddhau i'r Groes Goch mewn digwyddiad a gafodd ei ffrydio'n fyw.
Mae disgwyl iddyn nhw fynd i ysbytai yn Israel ar gyfer profion meddygol.
![Y gwystlon yn gadael mewn ceir Y Groes Goch](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2025-02/y%20groes%20goch%20copy.png?itok=zsV5ZEY1)
Mae Stephen Brisley, brawd yng nghyfraith un o'r gwystlon Eli Sharabi, 52 oed, yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd chwaer Mr Brisley a'i nith eu lladd yn yr ymosodiad gwaedlyd gan Hamas ar dde Israel ar 7 Hydref, 2023.
Roedd Eli Sharabi yn byw yn Kibbutz Be'eri, lle bu'n byw gyda'i wraig Lianne, a aned ym Mhrydain, a'u merched Noiya ac Yahel.
Roedd ei frawd Yossi yn byw drws nesaf.
Cafodd gwraig a merched Eli Sharabi eu lladd gan Hamas yn ystod yr ymosodiad gwaedlyd yn Hydref 2023.
Cafodd y ddau frawd eu cipio fel gwystlon ond bu farw Yossi'n ddiweddarach tra'r oedd yn gaeth.
Cafodd 1,200 o bobl eu lladd yn yr ymosodiad gan Hamas ar ddechrau mis Hydref 2023.
Fe aeth lluoedd Israel ymlaen i ymosod ar Gaza o ganlyniad, gan ladd degau o filoedd o Balestiniaid yn ystod eu hymgyrch filwrol.
Y ddau wystl arall ar restr Hamas sydd i gael eu rhyddhau ddydd Sadwrn yw Ohad Ben Ami, 56 oed, ac Or Levy, 34 oed.
Hyd yma, mae 18 o wystlon Iddewig wedi cael eu rhyddhau ers dechrau'r cadoediad ar 19 Ionawr - gyda'r gobaith y bydd 33 o wystlon i gyd wedi eu rhyddhau yn ystod cam cyntaf y cadoediad.
Fel rhan o'r cytundeb, mae disgwyl i 1,900 o garcharorion Palesteinaidd gael eu rhyddhau gan Israel hefyd.