Newyddion S4C

Yr Eidal v Cymru: Gêm bwysicaf Cymru ers 20 mlynedd?

Warren Gatland

Mae Prif Hyfforddwr tîm rygbi Cymru wedi gwrthod sylwadau taw’r gêm yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn fydd gêm bwysicaf Cymru ers 20 mlynedd.

Roedd Gatland yn ymateb i sylwadau cyn-faswr Cymru Dan Biggar yn dilyn y grasfa o 43-0 y erbyn Ffrainc ym Mharis yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad.

Dywedodd Gatland: “Rydym wedi bod mewn sawl gêm agos ac yn anffodus nid ydym wedi gallu croesi’r llinell. 

"Rydym yn gwybod ein bod mewn cyfnod o ail-adeiladu felly yn sicr nid dyma’r gêm fwyaf i Gymru am 20 mlynedd.”

Mae Cymru wedi colli’u 13 gêm ddiwethaf a byddai colli ddydd Sadwrn yn golygu y gall Gymru gwympo i safle 12 ymhlith detholion y byd, un safle o dan Georgia.

Mae cyn-gapten Cymru Sam Warburton wedi ymhelaethu ar sylwadau Biggar trwy ddweud y gall goblygiadau colli yn erbyn Yr Eidal fod y fwyaf am 20 mlynedd.

Dywedodd Warburton: “Dwi ddim yn credu taw dyma’r gêm fwyaf am 20 mlynedd ond gallai goblygiadau colli fod yn enfawr.

"Os ydy Cymru’n colli yna mae Iwerddon, Yr Alban a Lloegr i ddod. 

"Os ydy Cymru’n colli dyna 14 yn olynol felly gallech wedyn fod yn edrych ar 17 o golledion."

Newidiadau

Mae carfan Cymru wedi bod ymarfer yn ne Ffrainc ers colli ym Mharis wythnos yn ôl. 

Mae Gatland wedi gwneud dau newid i’w dîm a gollodd yn erbyn Ffrainc. 

Mae’r wythwr profiadol Taulupe Faletau yn dychwelyd i safle’r wythwr gydag Aaron Wainwright yn symud i’r fainc.

Dyma fydd gêm ryngwladol gyntaf Faletau ers Hydref 2023 pan enillodd Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd.

Mae canolwr y Scarlets Eddie James yn cychwyn am y tro cyntaf wrth gymryd lle Owen Watkin gafodd anaf difrifol i’w ben-glin.

Ond mae amheuon hefyd dros ffitrwydd Liam Williams, sydd wedi ei enwi'n gefnwr ar gyfer y gêm er gwaethaf anaf i'w ben-glin.

Nid yw Cymru wedi colli yn Rhufain ers 2007 ac roedd buddugoliaeth ddiwethaf Cymru yn y Chwe Gwlad yn Yr Eidal ddwy flynedd yn ôl.

Ond fe fydd Yr Eidal wedi cael eu calonogi o’u perfformiad yng Nghaeredin wythnos yn ôl er iddyn nhw golli yn erbyn Yr Alban.

Fe fydd chwaraewr y bencampwriaeth y llynedd, Tommasso Menoncello, yn dechrau yng nghanol cae i'r Eidalwyr, tra bod y seren Toulouse Ange Capuozzo yn cychwyn yn safle'r cefnwr.

Tîm Cymru v Yr Eidal: Gareth Thomas, Evan Lloyd, Henry Thomas, Will Rowlands, Dafydd Jenkins, James Botham, Taulupe Faletau, Jac Morgan (C), Tomos Williams, Ben Thomas, Josh Adams, Eddie James, Nick Tompkins, Tom Rogers, Liam Williams.

Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Freddie Thomas, Aaron Wainwright, Rhodri Williams, Dan Edwards, Blair Murray.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.