‘Pobl yn gorfod gadael cymunedau’ oherwydd gofynion iaith swyddi medd cynghorydd
Mae cynghorydd wedi dweud bod pobl yn gorfod gadael eu cymunedau oherwydd y gofyn i allu siarad Cymraeg i wneud rhai swyddi.
Dywedodd y Cynghorydd Louise Emery sy’n cynrychioli Gogarth Mostyn ar Gyngor Conwy bod “nifer o’r swyddi gorau” yn ei chymuned yn rhai lle’r oedd angen siarad Cymraeg.
“Rwy’n credu bod plant yn gadael fy ward yn Llandudno oherwydd bod nifer o’r swyddi gorau angen yr iaith Gymraeg,” meddai wrth siarad yn un o bwyllgorau’r cyngor.
“Mae angen i ni fod yn ofalus am wthio pobl i ffwrdd o le maen nhw’n byw.”
Dywedodd y cynghorydd Ceidwadol bod un ffrind iddi eisiau bod yn athro ond yn teimlo fod angen iddi adael yr ardal er mwyn gwneud hynny.
“Mae’n anodd dweud ein bod ni’n bod yn gynhwysfawr pan ydan ni’n eu cau nhw allan,” meddai.
Wrth ymateb dywedodd cynghorydd Plaid Cymru yn Llanrwst, Aaron Wynne, mai’r ateb oedd rhoi'r cyfle i siarad Cymraeg i fwy o bobl ifanc.
“Rydych chi’n gwella’r Gymraeg yn y sir drwy wella addysg Gymraeg yn y sir a chael pob plentyn i adael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai.
“Rwy’n ffodus. Roeddwn i'n siarad Cymraeg gartref. Mae’n loteri cod post ar hyn o bryd, pwy sy’n cael mynediad i’r Gymraeg.”
Ychwanegodd: “Felly mae’n rhaid i mi anghytuno. Ni ddylem fod yn lleihau’r gofyniad am y Gymraeg ar gyfer rhai swyddi.”
‘Haws’
Yn ôl y cyfrifiad a gynhaliwyd yn 2021, mae tua 17.8% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg, a tua 25% yng Nghonwy.
Roedd ffigyrau mewn adroddiad gafodd ei gyflwyno yn y cyfarfod cyngor yn dangos mai dim ond 20% o ddisgyblion uwchradd y sir oedd yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd cynghorydd annibynnol tref Conwy, Sian Grady: “Dydi’r plant bach ddim yn cael y Gymraeg y dylen nhw fod.
“Nawr o ystyried bod y rhan fwyaf o’r athrawon yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, a doedden nhw ddim yn ôl yn fy nyddiau i, mae gan fy wyrion ac wyresau lawer llai o Gymraeg nawr nag oeddwn i, a dwi’n meddwl bod gwir angen mynd i’r afael â hynny.
“Mae iaith yn haws i’w dysgu pan rydych chi’n ifanc.”