Yr Eglwys yng Nghymru wedi eu ‘brawychu’ gan droseddau cyn-esgob
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw wedi eu “brawychu” wedi i gyn-esgob gyfaddef o flaen llys i ymosodiad anweddus ar blentyn.
Fe ymddangosodd Anthony Pierce, 84, oedd yn esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Fe gyfaddefodd i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blentyn gwrywaidd o dan 16 oed, meddai’r eglwys.
Mae'r troseddau'n dyddio o’r cyfnod rhwng 1985 a 1990 pan oedd Mr Pierce yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe.
Mae Mr Pierce wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac y mae Mawrth 7fed wedi cael ei benodi fel dyddiad ar gyfer ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod yr honiadau wedi dod i’w sylw yn 2023 pan wnaeth y goroeswr ddatgelu gwybodaeth i Swyddog Diogelu'r Eglwys yng Nghymru.
“Cafodd y datgeliad ei basio i'r heddlu ar unwaith, a gweithiodd yr Eglwys yng Nghymru yn agos gyda'n partneriaid statudol wrth i'r achos gael ei ymchwilio a'i erlyn,” medden nhw.
“Yn dilyn dedfrydu troseddol, bydd Tribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru yn ystyried camau priodol pellach.”
‘Cywilydd’
Mewn datganiad dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod nhw’n “cydnabod dewrder y goroeswr wrth ddod ymlaen” ac yn diolch i’r heddlu a’r awdurdod lleol.
“Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi'i brawychu gan y troseddau sydd wedi dod i’r golwg yn yr achos hwn, ac yn mynegi ei chydymdeimlad dwysaf â'r dioddefwr am y cam-drin y maent wedi'i ddioddef,” medden nhw.
“Mae'n achos y cywilydd dwysaf bod offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru yn euog o droseddau mor ysgytwol.
“Gweddïwn dros y goroeswr a thros bob dioddefwr camdriniaeth, y mae'n rhaid i'w lles fod wrth wraidd ein gwaith bob amser.
“Gobeithiwn y bydd y modd y cafodd y datgeliad ei drin pan ddaeth i'r amlwg yn 2023 yn rhoi hyder bod yr Eglwys o ddifrif ynglŷn â delio'n gadarn ac yn bendant ag unrhyw achosion o'r fath.”
Dywedodd yr eglwys y gallai “nifer fechan” o aelodau’r Eglwys yng Nghymru fod yn ymwybodol o honiad pellach a wnaed yn erbyn Mr Pierce yn 1993 a dywedodd ei bod wedi comisiynu adolygiad ar unwaith i sut wnaethon nhw ymdrin â hyn.
“Mae Pwyllgor Diogelu'r Eglwys yng Nghymru bellach wedi comisiynu adolygiad allanol annibynnol o'r modd y gwnaeth yr Eglwys yng Nghymru ymdrin â'r ail honiad hwn,” medden nhw.
“Bydd yr adolygiad yn cychwyn ar unwaith ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl ei gwblhau.”