Cei Newydd: Pryder am gynllun i adeiladu tai ar faes parcio
Mae pryder yng Nghei Newydd ynglŷn â chynlluniau i adeiladu tai dros faes parcio prysur yn y dref.
Mae disgwyl i’r cynlluniau ar gyfer 30 o dai ar safle Maes Parcio Canolog y dref, a gynhelir gan asiantaeth dai Barcud, gael eu cymeradwyo.
Mae’r maes parcio ar frig Teras Glanmor, sy’n arwain i lawr at y traeth a siopau canol y dref, ac mae’n brysur yn nhymor yr haf.
Mae’r cais yn dweud: “Mae’r maes parcio presennol yn cael ei ddarparu fel menter fasnachol, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y tirfeddiannwr i barhau i ddarparu cyfleusterau parcio ceir ar gyfer ymwelwyr â Chei Newydd.
“Pe bai’r tirfeddiannwr yn dymuno, gallai’r defnydd o’r tir fel maes parcio ddod i ben ar unrhyw adeg.”
Mae swyddogion Cyngor Ceredigion wedi argymell cymeradwyo'r cynllun ar gyfer y tai fforddiadwy mewn cyfarfod ar 13 Chwefror.
Ond mae Cyngor Tref Cei Newydd wedi gwrthod y cynigion gan godi pryderon am golli llefydd parcio ac effaith hynny ar dwristiaeth yn y dref.
Roedd ganddyn nhw hefyd bryderon am ddiffyg cyfleusterau lleol er mwyn darparu ar gyfer rhagor o drigolion.
Mae’r cyngor wedi derbyn 29 llythyr yn gwrthwynebu’r cais ac un o blaid.
Dywedodd un gwrthwynebydd ei fod yn pryderu y bydd y tai yn rhai wedi eu cynnal gan asiantaeth dai, ac felly bydd nifer o’r teuluoedd o gefndiroedd difreintiedig.
Mae hyn yn ei dro yn golygu na fydd ganddynt unrhyw allu i wario yn y pentref, ac felly ni fydd yn dod â manteision i fusnesau, hynny yw. y siopau, bwytai, siopau DIY, siopau trin gwallt, a busnesau lletygarwch eraill,” meddai.
Dywedodd un arall: “Mae’n ymddangos bod Cyngor Ceredigion yn benderfynol o gael gwared ar dwristiaeth yng Nghei Newydd drwy gynyddu Treth y Cyngor, toiledau a biniau cyhoeddus annigonol a llai o lefydd parcio.”