Newyddion S4C

Gwyliwch: Chwaraewr dartiau o Loegr yn canu Yma o Hyd

Gwyliwch: Chwaraewr dartiau o Loegr yn canu Yma o Hyd

Roedd y dorf wrth eu bodd wrth i'r chwaraewr dartiau o Loegr Joe Cullen daro'r 'bullseye' gyda perfformiad o Yma o Hyd nos Wener.

Perfformiodd Cullen, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Rockstar' y gân gan Dafydd Iwan mewn cystadleuaeth yn Abertawe.

Roedd ef, y Cymro Jonny Clayton a sêr eraill y byd dartiau Stephen Bunting a Nathan Aspinall yn chwarae ym Mecca Bingo yn y ddinas.

Yn ystod saib rhwng y gemau fe wnaeth Cullen ganu Yma o Hyd, ac roedd yn amlwg yn mwynhau perfformio'r gân gan Dafydd Iwan o flaen y dorf.

Mae'n un o ffrindiau gorau Jonny Clayton yn y byd dartiau, felly mae'n ddigon posib bod y Cymro wedi cyflwyno'r gân iddo.

Image
Joe Cullen, Jonny Clayton a Huw Ware
Joe Cullen, Jonny Clayton a Huw Ware yn y digwyddiad nos Wener. Llun: @ModusDarts180

Yn y noson a gafodd ei drefnu gan gwmni dartiau Modus, roedd Clayton, Cullen, Bunting a Aspinall wedi chwarae yn erbyn ei gilydd.

Er gwaethaf ei rediad diweddar i rownd derfynol y Meistri, nid oedd Clayton wedi ennill yr un o'i gemau ar y noson.

Enillodd Cullen a Bunting un gêm yr un, ac fe wnaeth Aspinall ennill dwy.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.