Newyddion S4C

Teithio 7,500 milltir i adnewyddu capel yng Nghaernarfon

Sebastian Perez Parry

Teithio dros 7,500 milltir i adnewyddu capel yn nhref Caernarfon.

Dyna a wnaeth Sebastian Pérez Parry yr haf diwethaf wrth iddo adael ei gartref ym Mhatagonia i dreulio chwe mis yng Nghymru.

Roedd yr hanesydd wedi'i wahodd i weithio ar brosiect i adfer Capel Engedi, lle cafodd y syniad o sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia ei drafod gyntaf.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r capel ar Stryd Newydd yn y dref wedi bod yn wag ac wedi'i ddifrodi'n sylweddol.

Bwriad Prosiect Engedi 2.0 yw troi'r capel yn ganolfan cymunedol a fydd yn "rhoi bywyd newydd" i'r adeilad hanesyddol.

Bydd y ganolfan hefyd yn cynnwys amgueddfa i gofio am Lewis Jones, un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig a oedd yn aelod o'r capel.

Cofio Lewis Jones

Ers iddo fod yn ifanc, mae Mr Parry wedi bod â diddordeb mawr yng Nghymru.

Roedd ei deulu'n ddisgynyddion Cymru a ymfudodd i Batagonia ar fwrdd llong y Mimosa yn 1865.

Dywedodd Mr Parry ei fod wedi dod ar draws Capel Engedi mewn llyfrau am y Wladfa Gymreig.

"Gan fy mod wedi gweithio yn Sefydliad Gwyddorau Cymdeithasol Patagonia ac yn gyfrifol am y llyfrgell yno, dw i’n gyfarwydd iawn â llyfryddiaeth ar y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ac mewn amryw o lyfrau, mae’n sôn mai yng Nghapel Engedi y cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf lle trafodwyd y syniad o ymfudo o Gymru a’r cyrchfan a gynigiwyd oedd Patagonia."

Image
Capel Engedi
Cafodd Capel Engedi ei fandaleiddio yn y blynyddoedd diwethaf

Un oedd yn gyfrifol am hyrwyddo'r syniad o sefydlu'r Wladfa oedd Lewis Jones.

Fe aeth yr argraffydd o Gaernarfon i Batagonia yn 1862, gyda'r bwriad o sefydlu gwladfa Gymreig yno.

Tair blynedd yn ddiweddarach, fe lwyddodd i berswadio tua 150 o Gymry i fentro i'r Ariannin.

Yn ôl Mr Parry, mae prosiect Engedi 2.0 yn gyfle i gofio am Lewis Jones yn ei dref enedigol.

"A minnau’n byw yng Nghaernarfon, roeddwn i’n teimlo nad oedd Lewis Jones yn adnabyddus iawn yn y dref," meddai.

"Cefais fy ngeni mewn tref o’r enw Trelew, sy’n golygu Tref Lewis, er anrhydedd i Lewis Jones. 

"Oherwydd y cysylltiadau hyn â Lewis Jones, mae Caernarfon wedi trefeillio â Threlew, yn union fel y mae Nefyn wedi trefeillio â Puerto Madryn."

Image
Liam a Sebastian
Fe wnaeth arweinydd Engedi 2.0, Liam Kurmos, wahodd Mr Parry i Gaernarfon

Er mwyn cryfhau'r cysylltiad rhwng Caernarfon a Phatagonia, roedd Mr Parry yn awyddus i greu amgueddfa er cof am Lewis Jones.

"Ar hyn o bryd, mae mewn ystafell fach - roeddwn i am greu ystafell nodweddiadol o’r cyfnod gyda gwrthrychau ges i hyd iddynt yn y capel," meddai.

"Er enghraifft, mae gennym ni hen Feibl Cymraeg yn y capel."

Mae Mr Parry eisoes wedi dechrau rhoi'r amgueddfa at ei gilydd, ond nid yw wedi ei chwblhau eto.

Mae'r criw yn ddibynnol ar grantiau a rhoddion gan grwpiau i ariannu'r prosiect.

Dod o hyd i deulu

Yn ystod ei amser yng Nghymru, mae Mr Parry hefyd wedi llwyddo i ddod o hyd i aelodau o'i deulu.

"Fy nghyfenw yw Parry ac mi nes i ddod o hyd i lawer o ddisgynyddion y teulu Parry yma yng Nghaernarfon," meddai.

"Hefyd ges i’r cyfle i weithio fel gwirfoddolwr yn yr amgueddfa lechi yn Llanberis lle'r oedd fy hen hen hen daid yn gweithio fel chwarelwr yn y diwydiant llechi.

"Mi nes i lwyddo i olrhain datblygiad fy nheulu yn yr ardal hon hyd nes iddyn nhw ymfudo i Batagonia."

Image
Sebastian yn yr Eisteddfod
Fe aeth Mr Parry i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd y llynedd

Er ei fod bellach wedi dychwelyd i Batagonia, dywedodd Mr Parry ei fod wedi "hoffi Cymru'n fawr".

"Fi yw’r cyntaf yn fy nheulu ar hyd yr holl genedlaethau i fod wedi teithio yma," meddai.

"Roeddwn i'n gwybod o weld lluniau fod Cymru yn wlad hardd iawn, ond yr hyn a wnaeth argraff arna i oedd undod y bobl. 

"Mi ges i groeso cynnes ym mhob man, ac er fy mod newydd ddechrau dysgu Cymraeg, doedd yr iaith ddim yn broblem. 

"Byddai pobl yn sgwrsio efo fi mewn llefydd gwahanol, a finnau’n siarad am y prosiect."

Dywedodd arweinydd Engedi 2.0, Liam Kurmos, bod nifer o bobl wedi dangos diddordeb yn y prosiect.

Image
Liam Kurmos
Yn ôl Mr Kurmos, mae 'na alw am ganolfan cymunedol yng Nghaernarfon

Y bwriad, meddai, yw cyfuno hanes Lewis Jones gyda gofod modern a fydd llawn creadigrwydd.

"'Da ni isho dod â cerddoriaeth lleol o Gaernarfon a Gwynedd i'r byd drwy technoleg a creu gofod i bobl gydweithio," meddai.

"Da ni isho creu canolfan efo gwahanol elfennau sy'n cydweithio efo'i gilydd i wneud wbath diddorol.

"Does 'na ddim canolfan cymunedol fel hyn eto."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.