Wfftio awgrym mai’r Gymraeg wnaeth rwystro datblygiad Wylfa Newydd
Mae AS Ynys Môn wedi wfftio awgrym mai’r iaith Gymraeg wnaeth atal datblygiad Wylfa Newydd dan y llywodraeth Geidwadol flaenorol.
Roedd erthyglau ym mhapurau newydd y Financial Times, Guardian, Times a’r Telegraph ddydd Gwener yn awgrymu bod y Gymraeg wedi bod yn elfen allweddol wrth wrthod y cynllun.
Fe wnaeth arolygwyr cynllunio a benodwyd gan lywodraeth y DU argymell y dylid gwrthod y prosiect gan gwmni Hitachi ym mis Mehefin 2019.
Roedd cwmni eisoes wedi atal y gwaith ym mis Ionawr 2019 oherwydd pryderon am gostau a’r methiant i ddod i gytundeb i ariannu’r prosiect gyda Llywodraeth y DU.
Dywedodd y cwmni ar y pryd eu bod nhw’n gwneud hynny “o safbwynt yr hyn sy’n rhesymol yn economaidd ar gyfer menter breifat".
Penderfynodd y cwmni dynnu’n ôl yn swyddogol ym mis Medi 2020.
Roedd adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio yn nodi y gallai Wylfa B gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant drwy ddod a gweithwyr di-Gymraeg i’r ardal.
Ond roedd hefyd yn cynnwys nifer o ystyriaethau eraill gan gynnwys twristiaeth, iechyd a’r effaith ar yr amgylchedd.
Roedd erthygl y Guardian yn dyfynnu Tom Greatrex, gan ddweud ei fod yn “gwbl symptomatig o sut y gall prosesau cynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol ddiflannu i lawr cwningar.”
Ond dywedodd Iolo James, Pennaeth Cyfathrebu, Cymdeithas y Diwydiant Niwclear nad oedd yn credu mai’r iaith Gymraeg oedd y prif ffactor.
"Ein dealltwriaeth ni yw mai'r prif rwystr cynllunio yn 2019 oedd y safonau amgylcheddol anghymesur o amgylch y bygythiad i fywyd gwyllt ac nid y Gymraeg,” meddai wrth y Daily Post.
“Byddai niwclear newydd yn Wylfa yn cael effaith economaidd-gymdeithasol drawsnewidiol ar Ynys Môn, gan greu cyfleoedd hirbarhaol ar gyfer y genhedlaeth nesaf a dyfodol cynaliadwy i gymunedau Cymraeg."
Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi mai methiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi oedd y rheswm am rwystro cynllun Wylfa.
“Mae pobl Ynys Môn yn haeddu dyfodol sy’n cydbwyso twf economaidd gyda gwarchod ein hiaith, diwylliant ac amgylchedd unigryw,” meddai.
“Methiant gan lywodraeth Geidwadol y DU i gynllunio’n iawn a buddsoddi mewn dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein hynys oedd rhwystro prosiect Hitachi yn 2020.
“Gallai prosiect niwclear sydd wedi’i gynllunio’n dda ac wedi’i ariannu’n iawn ddod â swyddi hirdymor o ansawdd uchel a chryfhau ein cymunedau Cymraeg, gan helpu i gadw pobl ifanc ar yr ynys.
“Byddaf yn parhau i bwyso ar lywodraeth Lafur y DU i ddarparu strategaeth glir a realistig sy’n darparu’r cyfleoedd economaidd sydd eu hangen ar Ynys Môn wrth barchu ein hunaniaeth a’n hamgylchedd lleol.”