Newyddion S4C

Keir Starmer yn diswyddo gweinidog iechyd am negeseuon WhatsApp

Andrew Gwynne

Mae gweinidog iechyd yn llywodraeth Keir Starmer wedi ei ddiswyddo ar ôl gyrru negeseuon Whatsapp sarhaus.

Dywedodd y Blaid Lafur bod Andrew Gwynne hefyd wedi ei atal o’r blaid dros dro.

Yn ôl papur newydd y Daily Mail roedd y negeseuon yn cynnwys jôc yn awgrymu y byddai unigolyn hŷn oedd yn byw yn ei etholaeth wedi marw erbyn yr etholiad nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'r Prif Weinidog yn benderfynol o gynnal safon ymddygiad uchel mewn swyddi cyhoeddus.

“Ni fydd yn oedi cyn gweithredu yn erbyn unrhyw weinidog sy'n methu â chyrraedd y safonau hyn, fel y gwnaeth yn yr achos hwn."

Dywedodd Andrew Gwynne ei fod yn “difaru” y negeseuon ac yn “ymddiheuro am unrhyw loes” yr oedden nhw wedi eu hachosi.

“Rydw i wedi gwasanaethu’r Blaid Lafur ar hyd fy oes ac roedd yn anrhydedd enfawr cael fy mhenodi’n weinidog gan Keir Starmer,” meddai.

“Rwy’n deall yn llwyr y penderfyniadau y mae’r Prif Weinidog a’r blaid wedi ei wneud ac, er fy mod i’n drist iawn fy mod i wedi fy atal dros dro, byddaf yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallaf.”

Dywedodd y Ceidwadwyr fod y negeseuon yn dangos y “pydredd” yn y Blaid Lafur.

“Mae yna ddirmyg amlwg tuag at bensiynwyr yn y Blaid Lafur. Mae hyn yn amlwg yn mynd y tu hwnt i Andrew Gwynne ac mae yna bydredd yn y Blaid Lafur sydd angen mynd i'r afael ag o,” meddai cyd-gadeirydd y blaid Dorïaidd, Nigel Huddleston.

“Ni ddylai Andrew Gwynne aros yn aelod o’r Blaid Lafur – mae angen iddyn nhw weithredu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.