Newyddion S4C

Y Llais: Athrawes yn ‘dysgu Cymraeg’ i’w disgyblion gyda chaneuon Bronwen Lewis

10/02/2025
Emma Winter y Llais

Mae athrawes a serennodd yng nghyfres Y Llais yn dweud ei bod yn dysgu Cymraeg i’w disgyblion drwy ddysgu caneuon Bronwen Lewis iddyn nhw.

Fe lwyddodd Emma Winter, 32 oed, o Droed-y-rhiw ym Merthyr Tudful, i ennill ei lle yn ail rownd y gyfres S4C gyda’i pherfformiad o gân ‘Ti a Fi’ gan un o hyfforddwyr y rhaglen, Bronwen Lewis.

Roedd Emma a Bronwen yn eu dagrau wrth drafod arwyddocâd y gân, a gafodd ei hysgrifennu gan y gantores am ei mam-gu a'i thad-cu.

Yn dilyn perfformiad Emma, dywedodd Bronwen: “Ti’n gwybod, pan ti’n ysgrifennu cân fel ‘na amdano dy deulu di, fi 'di ysgrifennu cân yna amdano mam-gu a tad-cu fi, ac mae mam gu ddim yma rhagor. 

“Ac i allu clywed ti yn rhoi gyment o emosiwn mewn i gân fi, mae hwnna’n meddwl y byd i fi.

"I glywed ti’n rhoi sbin dy hun ynddo fe, mae hynny’n cymryd hyder yn gwybod bod fi’n ishte’n y gadair hefyd.”

Dywedodd Emma ei bod yn dysgu caneuon Bronwen i’w disgyblion yn Ysgol Gynradd Nant y Parc, Senghennydd.

“Fi’n gweithio mewn ysgol Saesneg a dw i’n dysgu Cymraeg drwy ganu,” meddai.

“Dw i’n mwynhau canu yng Nghymraeg, particularly yn canu caneuon Bronwen Lewis. Bronwen helps them dysgu Cymraeg.

"Ysbrydoliaeth fi ydi'r plant yn ysgol, fy nheulu, fy tad cu a mam gu. Dw i’n mwynhau canu gyda fy tad cu. Mae e’n ysbrydoliaeth.”

Llun: Y Llais/S4C

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.