Donald Trump unwaith eto'n dweud ei fod eisiau i America 'brynu Gaza'
Mae Donald Trump unwaith eto wedi dweud ei fod â’i fryd ar brynu a bod yn berchen ar Gaza er y gwrthwynebiad rhyngwladol.
Wrth siarad ar hediad i'r Super Bowl yn New Orleans nos Sul, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau: "Rydw i wedi ymrwymo i brynu a bod yn berchen ar Gaza.
"Yn nhermau ei ailadeiladu, efallai y byddwn yn ei roi i wladwriaethau eraill yn y Dwyrain Canol i adeiladu rhannau ohono, efallai y bydd pobl eraill yn ei wneud, trwy ein nawdd.
"Ond rydym wedi ymrwymo i fod yn berchen arno, ei gymryd, a gwneud yn siŵr nad yw Hamas yn symud nôl."
Ychwanegodd: "Does dim byd i symud yn ôl iddo. Mae'r lle wedi'i ddymchwel. Bydd beth sy'n weddill yn cael ei ddymchwel. Popeth wedi'i ddymchwel."
Yn ôl yr Arlywydd Trump, byddai Palestiniaid yn gadael Gaza pe bai ganddyn nhw ddewis.
"Dydyn nhw ddim eisiau dychwelyd i Gaza," meddai.
"Pe baen ni'n gallu rhoi cartref iddyn nhw mewn ardal fwy diogel - yr unig reswm maen nhw'n sôn am ddychwelyd i Gaza yw nad oes ganddyn nhw ddewis arall.
"Pan fydd ganddyn nhw ddewis arall, dydyn nhw ddim eisiau dychwelyd i Gaza."
Mae aelod o ganolfan wleidyddol Hamas, Ezzat El Rashq, wedi beirniadu ei sylwadau diweddaraf.
"Nid yw Gaza yn eiddo i'w werthu a'i brynu. Mae'n rhan annatod o diriogaeth Palestina," meddai mewn datganiad.
Yn fuan ar ôl cael ei urddo'n arlywydd am yr ail waith ar 20 Ionawr, fe wnaeth Mr Trump gyflwyno'r syniad o'r Unol Daleithiau yn "cymryd drosodd" Gaza.
Dywedodd ddydd Mercher y byddai'r wlad yn datblygu'r diriogaeth yn economaidd i fod yn "Riviera y Dwyrain Canol".
Fel rhan o'r cynlluniau, dywedodd y byddai Palestiniaid yn cael eu hailsefydlu mewn gwledydd fel yr Aifft neu Wlad yr Iorddonen tra byddai'n cael ei ailadeiladu.
Ond ddydd Gwener, dywedodd Gweinidog Tramor yr Aifft, Badr Abdelatty, ei fod wedi cysylltu â gweinidogion gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol, gan gynnwys Gwlad yr Iorddonen a Saudi Arabia, i gryfhau penderfyniad y rhanbarth i wrthod unrhyw gynlluniau i ddadleoli Palestiniaid.
Llun: AFP