‘Trist’ nad oedd Dafydd Elis-Thomas yn aelod o Blaid Cymru ar ddiwedd ei oes
Mae’r Arglwydd Dafydd Wigley wedi dweud ei fod yn “drist” nad oedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn aelod o Blaid Cymru ar ddiwedd ei oes.
Bu farw Dafydd Elis-Thomas, Llywydd cyntaf y Cynulliad, ddydd Gwener yn 78 oed.
Bu’n gwasanaethu gyda Dafydd Wigley yn Nhŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi a’r Senedd.
Gadawodd Plaid Cymru i eistedd fel AC annibynnol yn 2016 am nad oedd y blaid “o ddifrif” ynglŷn â chymryd rhan yn Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, meddai ar y pryd.
Yn 2017 fe ymunodd â chabinet Llywodraeth Cymru fel y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.
Wrth siarad ar raglen Politics Wales dywedodd Dafydd Wigley ei fod yn destun tristwch iddo bod Dafydd Elis-Thomas wedi gadael y blaid.
“Rwy'n meddwl ei fod yn drist yn y diwedd,” meddai
“Roedd fy nghyfarfod olaf un ag ef yn Nhŷ’r Arglwyddi dros flwyddyn yn ôl.
“Cyn hynny, roedd pethau wedi syrthio yn ddarnau ar ôl iddo wneud cais i ddod yn ôl i Blaid Cymru fel aelod. Rhoddwyd amodau ar hynny ac nid oedd yn fodlon cyd-fynd â'r amodau hynny.
“Y sgwrs olaf a gefais ag ef roedd yn obeithiol y byddai’r ddau ohonom yn cydweithio yn Nhŷ’r Arglwyddi ar yr agenda Cymreig.
“Ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen yn fawr at weld hynny'n digwydd, ac roeddwn yn drist iawn na ddigwyddodd hynny.”
Ychwanegodd: “Roeddwn i'n difaru'n fawr ei fod wedi mynd.
“Dydw i ddim yn meddwl y dylai fod wedi gwneud hynny.
“Rwy’n meddwl, pan ymddiswyddodd o’i swydd fel Llywydd, y dylai fod wedi camu’n ôl o’r rheng flaen.
“Roedd ganddo Dŷ’r Arglwyddi o hyd fel llwyfan i weithio arno.”
‘Disgyblu’
Wrth gael ei gyfweld ar yr un rhaglen dywedodd ei fywgraffydd Aled Eurig bod Dafydd Elis-Thomas yn difaru na gafodd gyfle i ail-ymuno â’r blaid.
“A dweud y gwir dw i’n meddwl bod Plaid Cymru wedi ei drin mewn ffordd ychydig bach yn shabby,” meddai.
“Roedd o eisiau dod yn ôl. Roedd o’n awyddus iawn. Ac fe ddywedodd yn gyhoeddus bod yr arweinydd newydd Rhun ap Iorwerth wedi gwneud argraff arno.
“Ond yn lle croesawu rhywun a oedd wedi gwasanaethu'r blaid ers dros 50 mlynedd roedden nhw am ei drin fel proses ddisgyblu a oedd yn gosod o’r neilltu ei record gyflawn.”
‘Derbyn’
Dywedodd Dafydd Wigley bod Dafydd Elis-Thomas wedi mynd o fod yn radical i fod yn barod i fod yn rhan o'r sefydliad.
Ond ei nod wrth weithio gyda’r Teulu Brenhinol a’r sefydliad oedd sicrhau bod datganoli yn cael ei dderbyn, meddai.
“Y nod oedd cael trawstoriad o bobl a allai fod wedi bod yn sinigaidd neu hyd yn oed yn wrthwynebus i dderbyn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun gwasanaethau datganoledig fel addysg ac iechyd, swyddogaethau pwysig iawn,” meddai Dafydd Wigley.
“Ac os oedd gweithio gyda'r sefydliad Brenhinol yn helpu i gyflawni hynny, roedd yn ddigon parod i wneud hynny.”