![Elsie Dot Stancombe gyda'i mam Jenni, tad David a'i chwaer iau Rosie](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2025-02/01JKKBZTKMXQGDTK5ACTWR9RRV.jpg?itok=B20zMNhw)
Teuluoedd Southport yn 'chwilio am olau yn y tywyllwch'
Mae teuluoedd dwy o'r merched bach a gafodd eu lladd yn Southport wedi siarad am y tro cyntaf am ddiwrnod yr ymosodiad.
Bu farw Alice da Silva Aguiar, 9 oed, Bebe King, 6 oed, ac Elsie Dot Stancombe, a oedd yn 7 oed yn yr ymosodiad ar ôl cael eu trywanu nifer o weithiau ym mis Gorffennaf y llynedd.
Mae Jenni a David Stancombe, rhieni Elsie Dot, a rheini'r ferch chwech oed Bebe King, nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol, wedi trafod y diwrnod "ofnadwy" gyda phapur newydd y Sunday Times.
Ychydig cyn hanner dydd, fe wnaeth Jenni dderbyn galwad gan fam un o'r plant eraill, meddai.
"Fe ddywedodd hi, 'mae rhywbeth ofnadwy wedi digwydd. Mae rhywun wedi trywanu'r plant'.
"Atebais i, 'beth wyt ti'n feddwl?'"
Fe wnaeth Jenni redeg allan o'i thŷ a mynd i'w char.
Dywedodd tad Bebe: “Roeddwn i wedi mynd lawr Stryd Hart a gweld yn syth fod ambiwlansys ym mhobman.”
![Elsie Dot Stancombe gyda'i mam Jenni, tad David a'i chwaer iau Rosie](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2025-02/01JKKBZTKMXQGDTK5ACTWR9RRV.jpg?itok=B20zMNhw)
Rhoddodd y teuluoedd deyrngedau twymgalon i'w merched a rhannu oedden nhw am i'w merched cael eu cofio yn y cyfweliad.
“Mae pawb yn ei ddweud e, eu bod nhw’n unigryw? Ond mae'n wir," meddai Jenni Stancombe.
Dywedodd mam Bebe: “Roedd ganddi’r pŵer yma i gysylltu â phobl, ac roedd y berthynas oedd ganddi gyda holl aelodau ei theulu yn wahanol, ond yn arbennig iawn.
"Roedd ganddi'r caredigrwydd cynhenid yna. Roedd ganddi sbarc.
“Rhaid i ni fyw er mwyn Bebe, anrhydeddu ei bywyd a dod o hyd i'r golau yn y tywyllwch."
Dywedodd y teuluoedd bod y trasiedi hefyd wedi effeithio ar eu plant eraill, gan gynnwys chwaer Elsie.
“Rydych chi'n gwybod eich bod chi'n dweud wrth eich plant bob dydd, bob nos, 'fyddai ddim gadael i unrhyw beth ddigwydd i ti'?" meddai David Stancombe.
“Sut allwn i ddweud hynny wrth (chwaer Elsie) nawr? Achos mae hyn wedi digwydd i Elsie. Sut y gallwn i eistedd yno a dweud, ‘fyddwn i byth yn gadael i unrhyw beth ddigwydd i ti?”
'Seirenau'
Mae mwy na 400 o bobl wedi’u dedfrydu am droseddau mewn cysylltiad â’r terfysgoedd a’r anhrefn a ddechreuodd mewn rhannau o’r wlad ar ôl ymosodiad gan Axel Rudakubana.
Roedd Chris Stancombe, ewythr Elsie, yn cofio bod yn nhŷ David a Jenni pan ddechreuodd y terfysgoedd.
“Roedd hi’n chwech neu saith o'r gloch y nos,” meddai wrth y Sunday Times.
“Y cyfan roeddwn ni'n clywed oedd seirenau a hofrenyddion.”
![Mae Axel Rudakubana a lofruddiodd tair merch fach yn Southport wedi ei ddedfrydu i o leiaf 52 mlynedd dan glo](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2025-02/Screenshot%202025-02-09%20at%2009.42.44.png?itok=CLSGZ1P8)
Dywedodd ewythr Elsie a thad Bebe na ddylai dedfrydu eu llofrudd, Axel Rudakubana, 18 oed, fod wedi cael ei darlledu, gan ddweud bod gormod o fanylion am anafiadau’r merched, ac nid dyna sut y maen nhw eisiau iddynt gael eu cofio.
“Ni ddylai’r ddedfryd fod wedi’i ddarlledu,” meddai Chris wrth y Sunday Times.
Ychwanegodd tad Bebe: “Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid iddo gael ei glywed yn y llys ond pam roedd angen i’r genedl gyfan ei weld ar y teledu?”
Cafodd Axel Rudakubana ei ddedfrydu i o leiaf 52 mlynedd dan glo fis diwethaf.
Fe geisiodd hefyd ladd wyth o blant eraill, nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol.
Nid oedd y rhieni wedi enwi Rudakubana trwy gydol y cyfweliad, gan gyfeirio ato fel “ef” neu “y troseddwr,” meddai’r Sunday Times.
'Twymgalon'
Ym mis Hydref, fe wnaeth Tywysog a Thywysoges Cymru ymweld â Southport. Roedd y ddau wedi cwrdd â Jenni a David yn ogystal â rhieni Bebe mewn lleoliad oedd heb ei ddatgelu.
Wrth bostio ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl yr ymweliad, dywedodd William a Kate: “Mae cwrdd â’r gymuned heddiw wedi bod yn atgof pwerus o bwysigrwydd cefnogi ein gilydd yn sgil trasiedi annirnadwy.”
“Roedd hynny’n golygu cymaint i Jenni,” meddai David wrth y Sunday Times.
“Oherwydd dyma oedd ymddangosiad cyhoeddus cyntaf [Kate].
“Wna i ddim rhannu'r hyn a ddywedodd hi, ond roedd beth wnaeth hi rannu gyda ni yn wirioneddol bwerus, ac roedd yn neges bwerus a thwymgalon, ac roedd yn golygu llawer.”
Mae’r teuluoedd wedi croesawu cynlluniau, gafodd eu cyhoeddi ar 21 Ionawr gan yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper, ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i'r llofruddiaethau.
Nid oes yr un o’r rhieni wedi mynd yn ôl i’r gwaith ers y trywanu, meddai'r Sunday Times.