Heddlu’r Gogledd yn arestio’r un dyn o Lundain ddwywaith mewn diwrnod
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru arestio’r un dyn o Lundain ddwywaith ddydd Sadwrn, unwaith yng Nghaerwys ac yn ddiweddarach ym Mangor.
Cafodd y dyn ei stopio ar yr A55 ar ôl gyrru mewn modd oedd yn peri pryder i’r heddlu, cyn profi’n bositif am ganabis yn ei system.
Cafodd ei arestio a’i gynghori i barhau â’i siwrne mewn tacsi, trên neu fel teithiwr mewn car rywun arall.
Ond cafodd ei stopio eto yn ddiweddarach gan yr heddlu ym Mangor, lle y darparodd prawf arall positif am ganabis, ac fe gafodd ei arestio am yr eildro.
Dywedodd Uned Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw’n disgwyl am y profion gwaed a bod y dyn yn wynebu gwaharddiad hirach a dirwyon.
“Rydym yn cynghori pob gyrrwr sy’n cael ei arestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau i ganiatáu amser i fynd heibio cyn mynd tu ôl i’r llyw eto,” medden nhw.
“Ein cyngor ni yw os ydych yn mynd i gymryd cyffuriau yna peidiwch â gyrru.”