Newyddion S4C

Bitcoin: Cau safle tirlenwi oedd wrth galon anghydfod cyfreithiol

09/02/2025
James Howells

Bydd safle tirlenwi sydd wedi bod wrth galon anghydfod cyfreithiol dros Bitcoin yn cau.

Roedd James Howells wedi mynd â Chyngor Dinas Casnewydd i'r llys mewn ymgais i orfodi'r cyngor i chwilio am ddisg galed ar y safle a oedd, meddai ef yn cynnwys dros £600m o Bitcoin.

Roedd wedi  danfon cof cyfrifiadur oedd yn cynnwys yr arian i safle tirlenwi ar ddamwain, meddai.

Wrth daflu'r achos allan ym mis Ionawr dywedodd y Barnwr Andrew Keyser KC nad oedd gan Mr Howells "unrhyw sail resymol" i'r achos.

Dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd yr wythnos hon y bydd y safle tirlenwi yn cau am y tro olaf yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26.

Mae’r cyngor yn disgwyl bod ar eu colled o bron i £1m wrth beidio gallu prosesu gwastraff masnachol ar y safle Docksway ar yr A48 yn ne'r ddinas.

“Dim ond ar gyfer gwaredu gwastraff masnachol y defnyddir y safle tirlenwi ers 2015,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Mae’r safle tirlenwi wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers dechrau’r 2000au ac yn dod i ddiwedd ei oes, felly mae’r cyngor yn gweithio ar gynllun i gau a selio'r safle dros y ddwy flynedd nesaf.”

Mae’r cyngor wedi cael caniatâd ar gyfer fferm solar ar y safle.

'Fforffedu perchnogaeth'

Roedd Mr Howells wedi dweud wrth yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ei fod wedi creu 8,000 Bitcoin yn 2009 a'i storio ar gof y cyfrifiadur yr oedd yn cadw mewn drôr yn ei dŷ.

Wrth glirio ei dŷ yn 2013 fe osododd y disg galed mewn bag du yn meddwl ei fod yn ddisg galed wahanol oedd yn wag. Fe wnaeth ei bartner fynd â'r bag hwnnw i'r safle tirlenwi.

Penderfynodd edrych am y ddyfais rai misoedd yn ddiweddarach ar ôl i werth ei Bitcoin godi i dros £9 miliwn.

Ond fe wnaeth ddarganfod bod y ddyfais yn y bag du aeth i safle tirlenwi yng Nghasnewydd.

Roedd nifer o geisiadau i'r cyngor i ddod o hyd i'r ddisg galed wedi eu hanwybyddu, meddai, er gwaethaf ei gynnig i roi 10% o werth y Bitcoin iddyn nhw pe bai'n cael ei ddarganfod.

Cafodd y cais hwn ei wrthod gan y cyngor, gan ei fod yn gallu achosi risg i bobl a'r amgylchedd ac yn torri amodau eu trwydded gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, medden nhw.

Ychwanegodd y cyngor fod Mr Howells wedi rhoi'r gorau i'w berchnogaeth o'r ddisg galed wrth ei daflu i ffwrdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.