Seithfed aelod Llafur o'r Senedd yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto
Mae seithfed aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli y Blaid Lafur wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll eto.
Mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol Bluesky dywedodd Rebecca Evans, sy'n cynrychioli etholaeth Gŵyr, ei bod yn bwriadu gadael y Senedd y flwyddyn nesaf.
Mae disgwyl i’r etholiad nesaf gael ei gynnal ym mis Mai 2026.
Mae’r gwleidyddion canlynol o’r Blaid Lafur eisoes wedi cadarnhau eu bod nhw’n camu o’r neilltu:
- Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
- Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
- Lee Waters (Llanelli)
- Mick Antoniw (Pontypridd)
- Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
- Dawn Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni).
'Pennod newydd'
Mewn datganiad dywedodd Rebecca Evans, sy’n 48 oed: “Mae wedi bod yn anrhydedd i mi gynrychioli etholaeth Gŵyr yn y Senedd ers 2016, a rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru am y pum mlynedd cyn hynny.
“Heddiw, rydw i wedi rhoi gwybod i fy mhlaid etholaethol fy mod i’n bwriadu camu o’r neilltu yn etholiad nesaf y Senedd, fel y gall y broses ar gyfer dewis ymgeiswyr newydd ar gyfer etholiad Senedd 2026 ddechrau.
“Hoffwn ddiolch i’m staff gwych, aelodau’r blaid leol, a’r teulu Llafur ehangach am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi imi dros y 14 mlynedd diwethaf.
Ychwanegodd: “Byddaf hefyd yn ddiolchgar am byth i’r pedwar Prif Weinidog sydd wedi rhoi’r fraint i mi o wasanaethu pobl Cymru fel gweinidog yn eu llywodraethau.
“I bleidleiswyr Gŵyr, rwy’n rhoi fy niolch a’m gwerthfawrogiad mwyaf am yr hyder yr ydych wedi’i ddangos ynof fel eich cynrychiolydd etholedig yn y Senedd.
“Byddaf yn parhau i roi popeth sydd gennyf iddo tan yr etholiad yn 2026, pan fydd yn amser symud ymlaen i bennod newydd.”