Ailagor rheilffordd ar ôl i gar ddisgyn ar y traciau
Mae rheilffordd ger Manceinion wedi ailagor ar ôl i gar ddisgyn arni ddydd Gwener, gan achosi oedi i drenau o Gymru.
Roedd oedi i rai trenau Trafnidiaeth Cymru ar ôl i'r car ddisgyn a glanio ben i waered ar y cledrau yn Salford.
Dywedodd Heddlu Manceinion bod dyn yn ei 30au wedi'i arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty. Nid yw ei anafiadau yn rhai a fydd yn newid nac yn peryglu ei fywyd, medden nhw.
Doedd yr un cerbyd arall yn rhan o’r gwrthdrawiad.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1887890814426026287
Mae lluniau yn dangos craen yn clirio'r car oddi ar y cledrau.
Dywedodd Network Rail fod difrod cheblau trydan uwchben sy’n darparu pŵer i drenau, a gymerodd "sawl awr" i drwsio.
Nid oedd trenau yn gallu rhedeg ar lein Chat Moss rhwng Liverpool Lime Street a Manchester Piccadilly ddydd Gwener.
O ganlyniad i hynny cafodd trenau Trafnidiaeth Cymru, TransPennine Express a gwasanaethau trên Northern eu heffeithio.