
Taith Ysbryd y Mimosa: Rhys Meirion a Pedair yn teithio i’r Wladfa
Bydd criw o Gymry yn ymuno â Rhys Meirion a Pedair ar daith i Batagonia fis Tachwedd i gefnogi ysgolion a sefydliadau Cymreig y Wladfa.
Mae Teithiau Patagonia wedi cyhoeddi mai gwesteion Rhys Meirion ar ei daith i’r Wladfa eleni fydd y grŵp gwerin Cymreig, Pedair.
Bydd y daith yn gyfle i griw o Gymry gwrdd a chymdeithasu â’r gymuned leol, mynd i gyngherddau, ac i fwynhau Nosweithiau Llawen i godi arian ar gyfer ysgolion lleol a sefydliadau Cymreig y Wladfa.
Bydd y daith yn cael ei chynnal fis Tachwedd eleni, 160 o flynyddoedd wedi i long Y Mimosa lanio ym Mhatagonia, sef y digwyddiad sydd wrth wraidd sefydlu’r Wladfa Gymreig.
Dywedodd Gwyneth Glyn o’r grŵp gwerin Pedair, ei bod yn “edrych ymlaen yn arw” i gael mynd ar y daith.
Uchafbwynt
Mae gan Pedair flwyddyn brysur iawn o’u blaenau, gan gynnwys teithio dramor i Ganada dros yr haf yn ogystal â’r Almaen.
Ond, dywedodd y gantores ei bod yn meddwl y bydd y daith sydd wedi ei threfnu gan Teithiau Patagonia yn “uchafbwynt” i Pedair, “yn gerddorol, a hefyd yn ddiwylliannol” meddai.
“Mae ‘na rhywbeth braf iawn am gael mynd yno, codi arian at ysgolion a dilyn llwybr yr hen Gymry yng nghwmni nid yn unig Rhys Meirion o bawb - ond hefyd y cyd-Gymry” meddai.
“Gobeithio fydd ‘na lond bys neu ddau ohonan ni, felly ‘da ni’n edrych ymlaen yn arw iawn!”
Eglurodd Gwyneth Glyn ei bod wedi cael y cyfle i fynd i’r Wladfa tua phymtheg mlynedd yn ôl, a’i bod wedi derbyn croeso ‘twymgalon” gan rai o’r bobl “fwyaf hynaws” iddi erioed eu cyfarfod.
“Roedd y croeso yn anhygoel yna” meddai, “a chwrdd â hen ffrindiau a gwneud cyfeillion newydd hefyd, a mi fydd hi’n braf iawn cael ailgysylltu efo rhai o’r hen ffrindiau hynny”.
Mae dwy arall o Pedair, Siân James a Gwennan Gibbard, eisoes wedi bod ym Mhatagonia , ond dyma fydd y tro cyntaf i bedwerydd aelod y grŵp, Meinir Gwilym, deithio yno.
“Mi fydd hi’n hyfryd cael gweld ymateb ffresh ac uniongyrchol Meinir i’r profiad o dreulio amser yn Patagonia”, meddai Gwyneth Glyn.

‘Cysylltiadau di-ri’
Mae hi'n pwysleisio bod yna ‘gysylltiadau cerddorol di-ri rhwng Cymru a Phatagonia’.
Fe gyfansoddodd gân pan aeth hi draw yno’r tro diwethaf, sef Ferch y Brwyn.
“Mi gesh i fenthyg gitâr Hector Ariel a dwi’n cofio eistedd i lawr a mi ddoth y gân am y profiadau gesh i ar y daith honno yn Ne America ar y pryd…mi fydd hi’n braf iawn cael ailgydio yn y cysylltiadau hynny” meddai.
Dywedodd Esyllt Nest Roberts, Cymraes sydd bellach yn byw yn Nhrelew, ym Mhatagonia, bod Rhys Meirion wedi bod yn dod i’r Wladfa ers blynyddoedd bellach.
“Braint y llynedd oedd cael croesawu Bryn Fôn gydag o” meddai, “gan roi cyfle i gynulleidfaoedd lleol fwynhau perfformiwr a chaneuon gwahanol.”
Ar ôl iddi glywed y cyhoeddiad mai Pedair fydd yn mynd draw eleni, dywedodd bod pawb yn “edrych ymlaen yn arw i glywed grŵp gwahanol o artistiaid”, ond “gan gofio hefyd nad dim ond cynnal cyngherddau a wneir ar y tripiau ‘ma.”
Bydd y criwiau sy’n ymuno â Rhys a Pedair yn ymweld ag ysgolion Cymraeg a chymdeithasau lleol Y Wladfa, yn ogystal ag unrhyw ddigwyddiadau fydd ymlaen ar y pryd.
Bydd cyfle iddyn nhw “sgwrsio a chydganu yn Gymraeg gyda phobl leol, rhannu asados, (cig) a dysgu am ein hanes lleol ninnau” meddai Esyllt Nest Roberts.
Dywedodd bod Teithiau Patagonia yn gwneud cyfraniad “eithriadol o werthfawr” i’r gymdeithas ac ysgolion Cymraeg-Sbaeneg drwy gynnal y daith hon, ac yn sicrhau bod y “cysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa yn parhau” sy’n “anhepgor i barhad yr iaith yma.”
“Oes wir, mae 'na hen edrych ymlaen at y daith nesaf!” meddai.