Rygbi: Cytundeb 'hollbwysig' yn cynyddu lefel ariannu i ranbarthau Cymru
Fe fydd pedwar rhanbarth rygbi Cymru yn parhau i gael eu hariannu am y pedair blynedd nesaf o leiaf yn ôl cytundeb newydd dros ariannu dyfodol rygbi proffesiynol.
Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi ddydd Gwener bod “egwyddorion” y Trefniant Rygbi Proffesiynol, sydd yn gosod strwythur ariannol y gêm broffesiynol, wedi’u cytuno gyda’r pedwar rhanbarth – Scarlets, Dreigiau, Rygbi Caerdydd a’r Gweilch.
O dan y cytundeb newydd, fydd mewn lle tan 2029, fe fydd “cynnydd yn y buddsoddiad ariannol” y bydd y pedwar rhanbarth yn eu derbyn gan yr Undeb.
Bydd y cytundeb yn galluogi’r rhanbarthau i fuddsoddi rhagor yn eu carfanau, “gan gadw talent a chynnig cartref i chwaraewyr sydd wedi symud i ffwrdd i ddychwelyd i Gymru”.
Yn ôl yr Undeb, bydd y model ariannu yn galluogi’r rhanbarthau i arwyddo “chwaraewyr o dramor o safon”.
Fe fydd URC yn cael mwy o ddylanwad gyda’r rhanbarthau yn ôl y cytundeb, ac fe fydd rhagor o gydweithio rhwng y pedwar rhanbarth a hyfforddwyr y timau cenedlaethol.
Bydd gosod system trwyddedu academïau rygbi yn helpu i ‘godi safon’ Super Rygbi Cymru, sef yr ail haen o rygbi a sefydlwyd y llynedd, yn ôl yr Undeb.
Bydd y cytundeb nawr yn cael ei gyflwyno i fyrddau a rhanddeiliad eraill er mwyn cael ei gymeradwyo.
'Cyfnod cyffrous'
Yn y gorffennol, mae’r Undeb wedi trafod y posibilrwydd o dorri’r nifer o ranbarthau, wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd cystadlu gyda thimau Iwerddon a De Affrica yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Ond yn ôl Malcolm Wall, sydd yn Gadeirydd ar y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, sydd yn cynrychioli’r rhanbarthau, fe fydd y cytundeb yn “cefnogi’r gamp ar y lefel uchaf un”.
“Rydym mewn cyfnod hollbwysig o ran cwblhau’r cytundeb, ac fe fydd yn diogelu dyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru yn y tymor byr ac yn galluogi llwyddiant yn yr hirdymor.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’n gêm gyda’r systemau a’r strwythurau cywir yn cael eu gosod oddi ar y cae, sydd wedi’u cynllunio i alluogi llwyddiant arno yn y dyfodol.”