Newyddion S4C

Torri nifer y rhanbarthau rygbi yn bosibilrwydd

20/05/2024
Nigel Walker

Mae torri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri dal yn bosibilrwydd medd Undeb Rygbi Cymru.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithredol yr Undeb, Nigel Walker, mae yna gwestiwn i’w ofyn ynglŷn ag os yw’r gêm yn fyd eang yn “gynaliadwy fel y mae ar hyn o bryd”.

Mae timau cenedlaethol y dynion a merched wedi gorffen yng ngwaelod y grŵp ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Yn ogystal dim ond y Gweilch sydd â gobaith o orffen yn rhan uchaf y gynghrair o ranbarthau Cymru.

Wrth siarad ar raglen Scrum V dywedodd Nigel Walker bod y tymor wedi bod yn un “anodd”.

“Yr adeg yma'r llynedd fe wnes i ddweud bod hi yn mynd i fod yn anodd am ychydig o flynyddoedd ond dyw’r sefyllfa ddim yn ddu i gyd,” meddai.

“Mae yna rhai arwyddion gobeithiol, yn enwedig rhai o berfformiadau’r Gweilch, ond maen nhw wedi bod yn brin.”

Ychwanegodd fod yr undeb yn gobeithio cynnig “hwb” ariannol i’r rhanbarthau yn y blynyddoedd nesaf. 

Dywedodd bod yna darged blynyddol ariannol rhwng £5.5m a £6m wedi ei osod i wneud timau Caerdydd, Y Dreigiau, Y Gweilch a’r Scarlets yn gystadleuol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.