Dyn yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth baban yn Ninbych-y-pysgod
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth baban chwe mis oed drwy yrru’n beryglus.
Fe wnaeth Flaviu Naghi, 33 oed o Wigan ymddangos drwy gyswllt fideo o garchar Abertawe ar gyfer y gwrandawiad yn Llys y Goron y ddinas fore dydd Gwener.
Ni chafodd unrhyw ble ei gyflwyno i'r llys.
Bu farw Sophia Kelemen o'i hanafiadau yn yr ysbyty ddiwrnod ar ôl i gar daro ei phram ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod ar 3 Ionawr.
Fis diwethaf clywodd cwest i'w marwolaeth fod Sophia, ei rhieni Alex a Betty a'i brawd pump oed o Leigh, yn ardal Manceinion, ar eu gwyliau yn ne Cymru ar y pryd.
Cafodd Sophia ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ond bu farw o waedu o'i phenglog (cranial hemorrhage).
Fe wnaeth y Barnwr Catherine Richards ohirio'r achos tan 21 Mawrth.