Newyddion S4C

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw'n 78 oed

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw'n 78 oed

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas wedi marw yn 78 oed.

Yn ffigwr blaenllaw ym myd gwleidyddiaeth Cymru am ddegawdau, cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin yn 1946.

Fe dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Llandysul, Ceredigion, ac yna yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy.

Fe arweiniodd Plaid Cymru rhwng 1984 a 1991, a gwasanaethu fel AS Meirionydd ac yna Meirionydd Nant Conwy rhwng 1974 a 1992.

Fe gafodd ei benodi i Dŷ’r Arglwyddi yn 1992.

Ef oedd Llywydd, neu Lefarydd, cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Cymreig pan agorodd yn 1999.

Gadawodd y blaid yn 2016, gan wasanaethu yn y pen draw fel gweinidog annibynnol yn llywodraethau Carwyn Jones a Mark Drakeford.

Fe wnaeth ymddeol o wleidyddiaeth rheng flaen yn 2021.

Roedd yn gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1994 a 1999, ac roedd yn gyn-aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Roedd hefyd yn gadeirydd ar Sgrin Cymru rhwng 1992 a 1999.

Yn gyn-ddarlithydd, roedd yn Ganghellor a chadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd ei deulu: “Bu farw’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn 78 oed yn dawel yn ei gartref ar fore’r 7fed o Chwefror yn dilyn salwch byr.

“Mae’r teulu’n gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon.”

Llun: Tŷ'r Arglwyddi

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.