Dyn yn cyfaddef dynladdiad dynes 69 oed ond yn gwadu ei llofruddio
Mae dyn 34 oed wedi cyfaddef dynladdiad dynes 69 oed yn ei chartref ond yn gwadu ei llofruddio, clywodd llys.
Plediodd Dean Mark Albert Mears yn euog i ddynladdiad Catherine Flynn yn Y Rhyl yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug.
Bu farw'r ddynes 69 oed diwrnod wedi'r ymosodiad yn ei chartref ar 24 Hydref y llynedd.
Fe wnaeth Mears, o Fae Cinmel, ymddangos drwy gysylltiad fideo o garchar y Berwyn yn Wrecsam ddydd Gwener.
Gwadodd pedwar cyhuddiad o fyrgleriaeth, tri ohonynt ar y diwrnod a fu farw Catherine Flynn.
Roedd y Barnwr Rhys Rowlands wedi gohirio'r achos tan 29 Ebrill pan fydd yr achos yn mynd o flaen Llys Ynadon Caernarfon.
Bydd Mears yn cael ei gadw yn y ddalfa tan yr achos.
'Caru ei theulu'
Mae cwest eisoes wedi clywed bod Catherine Flynn wedi dioddef anafiadau difrifol i’w hwyneb a’i gwddf.
Ar ôl ei marwolaeth dywedodd ei theulu bod ganddi'r "wên fwyaf ar ei hwyneb ac yn helpu pobl eraill pob tro".
"Roedd Cathy yn fam, nain, hen nain, modryb a chwaer anhygoel, a hefyd yn fam a ffrind da i nifer o bobl eraill," medden nhw.
"Roedd hi'n caru ei theulu mwy nag unrhyw beth.
"I'w merch Natasha a'i mab-yng-nghyfraith Liam, roedd hi'n fwy 'na mam. Roedd hi'n golygu bob dim iddyn nhw."