Newyddion S4C

‘Ergyd drom’: Teyrngedau o'r byd gwleidyddol i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Teyrnged DET

Mae marwolaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn 78 oed wedi ei ddisgrifio fel “ergyd drom” i wleidyddiaeth yng Nghymru gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Fe arweiniodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas Plaid Cymru rhwng 1984 a 1991, a gwasanaethu fel AS Meirionydd ac yna Meirionydd Nant Conwy rhwng 1974 a 1992.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae colli Dafydd yn ergyd drom i wleidyddiaeth Cymru a bywyd sifig ein cenedl.

"Yn ddi-os roedd Dafydd yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ac arwyddocaol ei genhedlaeth, a fel Llywydd y Cynulliad cyntaf gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i osod seiliau cadarn i ddatganoli.

"Rydym yn cofio Dafydd fel un a dorrodd dir newydd fel yr Aelod Seneddol ieuengaf yn San Steffan yn 1974 ac aeth ymlaen i arwain Plaid Cymru gydag angerdd ac afiaeth.

"Fe dyfais i fyny efo Dafydd yn ffrind personol a theuluol, a bu’n ddylanwadol arnaf i o fy mlynyddoedd ieuengaf.

"Roedd ei gariad at ein cenedl, ein hiaith, a’n diwylliant yn ddi-wyro.

"Ar ran Plaid Cymru, rwyn estyn ein cydymdeimladau dwysaf â theulu Dafydd yn eu profedigaeth."

Dtwedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ei fod yn "gawr yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn gwbl angerddol dros ein cenedl, ein hiaith, a'n diwylliant". 

"O'i rôl arloesol fel Llywydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w wasanaeth yn San Steffan a Thŷ'r Arglwyddi, helpodd i lunio'r Gymru rydym yn ei hadnabod heddiw," meddai.

"Ar lefel bersonol, roedd Dafydd yn ysbrydoliaeth i mi o fy nyddiau cynharaf mewn gwleidyddiaeth.

"Cefais y fraint o weithio ochr yn ochr ag ef yn Nhŷ'r Arglwyddi, y Senedd a Llywodraeth Cymru, lle'r oedd ei gynhesrwydd, ei ddoethineb, a'i ymrwymiad diwyro i Gymru yn rhyfeddol.

"Mae ein cenedl yn llawer mwy cyfoethog am ei oes o wasanaeth, a bydd ei weledigaeth o Gymru falch, hyderus a diwylliannol fywiog yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau i ddod."

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, John Swinney: "Drwg iawn clywed am farwolaeth cyn-arweinydd Plaid Cymru yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. 

"Roedd yn ffrind mawr i'r Alban ac yn was ffyddlon i Gymru. 

"Boed iddo orffwys mewn heddwch a chydymdeimlad â'i deulu."

Image
Dafydd Elis Thomas yn y flwyddyn 2000 yn Llywydd y Cynulliad
Dafydd Elis-Thomas yn y flwyddyn 2000 yn Llywydd y Cynulliad

Dywedodd Llywydd y Senedd, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS: “Mae hi’n anodd dychmygu bywyd gwleidyddol Cymru heb Dafydd Elis-Thomas. Ers dechrau’r 1970au bu’n ffigwr hollbresennol, wedi cymryd ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi ac ein Senedd.

“Fel Llywydd cyntaf y Senedd, roedd yn eiddgar i sefydlu democratiaeth gyfoes o’r dechrau, a dysgu gan Seneddau eraill beth i’w wneud a beth i beidio ei wneud.

“Dafydd oedd ceidwad y cyfansoddiad Cymreig, ond un oedd bob amser yn barod i feddwl y tu allan i’r bocs.

“Ef oedd craig sylfaen ein Senedd. Rydym yn galaru am ei golled ac mae ei deulu a’i ffrindiau yn ein meddyliau a’n gweddïau.”

'Ymroddiad'

Roedd Cynog Dafis yn Aelod o'r Cynulliad ar y cyd â Dafydd Elis-Thomas rhwng 1999 a 2003.

Dywedodd ei fod wedi gwneud "cyfraniad allweddol i dwf Plaid Cymru ac achos hunan-lywodraeth". 

"Roedd yn rhyddfeddyliwr ac am wthio’r ffiniau er mwyn lledu cefnogaeth y Blaid y tu hwnt i rengoedd y ffyddlopniaid diwylliannol," meddai.

"Hynny, a’i ymroddiad mawr a’i galluogodd i gipio sedd Meirionnydd oddi wrth Lafur.

"Drwy ei gefnogaeth ddiflio i achos y glowyr yn Streic 1984 sefydlodd hygredegg y Blaid ymysg y dosbarth gweithiol di-Gymraeg a’r mudiad llafur a thebyg i hyn gyfrannau at y bleidlasi Ie yn Refferendwm 1997. 

"Mae’n gwbl addas iddo ddod yn Llywydd cytaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gwneud cyfraniad tra gwerthfawr i’w gadarnhau o 1999 ymlaen.

"Y bersonol rwy’n ddyledus iddo am ei gefnogaeth, mewn gair a gweitred, i’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Gwyrddiaid a sicrhaodd y fuddugoliaeth hanesyddol yng Ngheredigin a Gogledd Penfro yn 1992."

Dywedodd y cyn ddirprwy Brif Weinidog a chyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones bod Dafydd Elis-Thomas "yn un o ffigurau pwysicaf y byd gwleidyddol yng  Nghymru yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf". 

"Fel un o aelodau seneddol cyntaf Plaid Cymru, fel Arweinydd y Blaid, ac fel Llywydd cyntaf Y Cynulliad, gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy," meddai.

"Ar lefel bersonol, 'roedd yn fentor gwleidyddol i mi a bu yn hynod o gefnogol ar bob cam o'm gyrfa. Yn wir, ni chymerais unrhyw benderfyniad o bwys heb geisio'i gyngor, ac yntau mor barod i'w roi. 

"Heb ei arweiniad, ei ddyfalbarhad a'i egni fel Llywydd, ni fyddai'r Cynulliad wedi datblygu'n Senedd go iawn yn 2011. Mae ei gyfraniad i ddatblygiad cyfansoddiadol Cymru yn waddol disglair. 

"Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i Mair, ei deulu a'i gyfeillion ar adeg mor drist."

'Gwaith diflino'

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ei bod yn "estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i Mair a holl deulu Dafydd Elis-Thomas yn dilyn y newyddion trist iawn yma".

"Roedd Dafydd Êl yn yn ffigwr aruthrol ym mywyd cyhoeddus Cymru, ac yn ysbrydoliaeth i genedlaethau ledled Cymru," meddai.

"Rwyf wedi siarad â chymaint o bobl yn yr etholaeth, ac yn enwedig ym Meirionnydd, sy’n dweud wrthyf sut roedd gwleidyddiaeth Dafydd wedi eu hysbrydoli’n angerddol fel pobl ifanc.

"Fel Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru dros Meirionnydd, a wedyn fel Aelod o'r Senedd, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, a gweinidog yn Llywodraeth Cymru, chwaraeodd ran ganolog wrth lunio tirwedd wleidyddol ein cenedl.

"Mae ei waith diflino a’i ymrwymiad i Gymru, ei phobl, a’i democratiaeth wedi gadael ôl anferth ar ein hanes.

"Bu Dafydd Êl hefyd yn gwbwl allweddol wrth gryfhau ein democratiaeth ifanc fel Llywydd y Senedd. Roedd ei gyfraniadau, yn aml tu ôl i'r llenni, i ddatblygiad y Senedd yn hollbwysig er mwyn creu y ddemocratiaeth gryfach sydd ganddon ni heddiw."

Ychwanegodd: "Enillodd ei allu i adeiladu pontydd ar draws rhaniadau gwleidyddol a’i angerdd dwfn dros ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig barch cydweithwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

"Roedd Dafydd Êl yn wleidydd lliwgar a byth yn ddiflas. Bydd colled enfawr ar ei ôl, nid yn unig gan ei deulu a’i ffrindiau ond gan bawb sy’n credu yn y weledigaeth o Gymru gryfach, fwy hyderus. Cofiwn ei gyfraniad a’r etifeddiaeth y mae’n ei gadael ar ei hôl."

‘Cadarn’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Ar ran Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Dafydd Elis-Thomas yn eu profedigaeth. 

"Bu Dafydd yn gyfaill i gynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd am flynyddoedd lawer. 

"Roedd ei ddylanwad yn lleol, yn sirol ac yn genedlaethol yn enfawr. 

"Mae gan nifer o gynghorwyr y Blaid ac aelodau ar lawr gwlad straeon rif y gwlith am waith a chyfraniad Dafydd i fywydau pobl. 

"Diolch Dafydd am dy gyfraniad i Wynedd, i Ddwyfor Meirionnydd ac i Gymru.”

Dywedodd Llŷr Gruffydd, sy’n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yn y Senedd, nad oedden nhw’n “gweld lygad yn llygad bob tro” ond roedd yn “gaffaeliad mawr i mi”.

Yn wir, roedd yn gadeirydd ar 7 AS newydd yn y Pwyllgor Amgylchedd ar y pryd, a phob un ohonom yn cellwair ein bod yn dysgu wrth draed yr Arglwydd!” meddai.

“Diolch iddo am ei holl waith dros Gymru. Coffa da amdano a phob cariad a chydymdeimlad at ei deulu.”

Dywedodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei fod yn “drist iawn” o glywed am ei farwolaeth.

“Roeddwn i bob amser yn mwynhau gweithio gyda Dafydd - dyn nad oedd byth yn ofni dweud beth oedd ar ei feddwl,” meddai.

“Roedd bob amser yn bendant ac yn gadarn wrth fynegi ei farn, ac am hynny roeddwn yn ei edmygu'n gryf. 

“Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i deulu ar yr adeg drist hon.”

Llun: Prifysgol Bangor

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.