Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn o Fôn a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Bangor

Jonathan Rigby

Mae teulu beiciwr modur fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Bangor yr wythnos ddiwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Jonathan Rigby yn 47 oed ac yn byw ar Ynys Môn. 

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Roedd Jon Rigby yn ddyn 47 oed, yn hoff o gerddoriaeth, yn ddyn iach, gweithgar, yn ŵr a thad ymroddedig i’w ferch, meibion ​​a thaid i’w ddwy wyres. 

“Roedd Jon wedi symud i Ynys Môn yn ddiweddar i fyw ei freuddwydion gyda’i wraig gariadus ond yn drasig, nid yw hyn bellach yn bosib.

“Fel teulu, rydyn ni nawr angen amser i alaru’r dyn rydyn ni wedi’i golli a’r dyfodol na fyddwn ni nawr yn gallu ei gael."

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar ddydd Iau 30 Ionawr ar ffordd yr A487 Bryn y Faenol, ger cyffordd Ffordd Penrhos.

Roedd Mr Rigby'n gyrru beic modur Honda oedd mewn gwrthdrawiad gyda Volkswagen Tiguan llwyd.

Cafodd Mr Rigby ei gludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans lle bu farw'n ddiweddarach.

Cafodd gyrrwr y Tiguan ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mae wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd Sarjant Liam Morris o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Rydym yn parhau i annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd eto i siarad â ni, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A487 o gwmpas amser y gwrthdrawiad, neu ychydig cyn hynny, i gysylltu â ni.

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda’r ymchwiliad i gysylltu â swyddogion yr Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000079908."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.