Gobaith y gall gwystl gyda theulu yn ne Cymru gael ei ryddhau gan Hamas
Mae dyn sydd yn cael ei gadw'n wystl gan Hamas ac sydd gyda theulu yn ne Cymru ar restr o wystlon i gael eu rhyddhau ddydd Sadwrn.
Dyma'r cam diweddaraf yn y cadoediad rhwng Hamas a lluoedd Israel.
Mae Stephen Brisley, brawd yng nghyfraith y gwystl Eli Sharabi, 52 oed, yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd chwaer Mr Brisley a'i nith eu lladd yn yr ymosodiad gwaedlyd gan Hamas ar dde Israel ar 7 Hydref, 2023.
Roedd Eli Sharabi yn byw yn Kibbutz Be'eri, lle bu'n byw gyda'i wraig Lianne, a aned ym Mhrydain, a'u merched Noiya ac Yahel.
Roedd ei frawd Yossi yn byw drws nesaf.
Cafodd gwraig a merched Eli Sharabi eu lladd gan Hamas yn ystod yr ymosodiad gwaedlyd yn Hydref 2023.
Cafodd y ddau frawd eu cipio fel gwystlon ond bu farw Yossi'n ddiweddarach tra'r oedd yn gaeth.
Cafodd 1,200 o bobl eu lladd yn yr ymosodiad gan Hamas ar ddechrau mis Hydref 2023.
Fe aeth lluoedd Israel ymlaen i ymosod ar Gaza o ganlyniad, gan ladd degau o filoedd o Balestiniaid yn ystod eu hymgyrch filwrol.
Y ddau wystl arall ar restr Hamas sydd i gael eu rhyddhau ddydd Sadwrn yw Ohad Ben Ami, 56 oed, ac Or Levy, 34 oed.
Hyd yma, mae 18 o wystlon Iddewig wedi cael eu rhyddhau ers dechrau'r cadoediad ar 19 Ionawr - gyda'r gobaith y bydd 33 o wystlon i gyd wedi eu rhyddhau yn ystod cam cyntaf y cadoediad.
Fel rhan o'r cytundeb, mae disgwyl i 1,900 o garcharorion Palesteinaidd gael eu rhyddhau gan Israel hefyd.