![Y pafiliwn](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2025-02/lamp%20aldi%20pavillion.jpg?itok=-GuF7yco)
Argymell gwrthwynebu archfarchnad Aldi ar dir y brifysgol yn Llambed
Mae swyddogion Cyngor Ceredigion wedi argymell gwrthwynebu cynllun ar gyfer archfarchnad Aldi ar dir y brifysgol yn Llambed.
Byddai'r cynllun yn cynnwys agor yr archfarchnad ar gaeau Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar Ffordd Pontfaen a hefyd adfer pafiliwn rhestredig Gradd II.
Fis Gorffennaf y llynedd fe benderfynodd cynghorwyr gefnogi'r cynllun, gyda'r amod o osod cyfnod i gael ail-ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol yn hwyrach ymlaen.
Ar hyn o bryd mae’r safle yn cynnwys dau gae rygbi glaswellt sy’n cael eu defnyddio ar gyfer rygbi, criced, pêl-droed, hoci a gweithgareddau chwaraeon eraill gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r ymgeiswyr yn dweud y byddai'r datblygiad arfaethedig yn creu hyd at 40 o swyddi lleol newydd, yn ogystal â swyddi adeiladu tymor byr.
![Y pafiliwn](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2025-02/lamp%20aldi%20pavillion.jpg?itok=-GuF7yco)
Ond dywedodd swyddogion y cyngor y byddai yn gwneud niwed i amgylchedd y pafiliwn Gradd II, ac nad oedd angen y siop fwyd arfaethedig yn Llanbedr Pont Steffan.
Byddai yn cael “effaith andwyol” ar siopau eraill, gan gynnwys siop bresennol Sainsbury a Co-Op y dref, medden nhw.
Dywedodd swyddogion hefyd fod disgwyl iddo gael “effaith andwyol sylweddol ar ganol trefi Aberaeron a Llandysul” a hefyd siop Costcutters Cei Newydd.
Mae 700 o bobol wedi arwyddo deiseb o blaid y cynllun a dywedodd asiant Aldo Rob Jones ei fod yn “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i Lambed.
Cawsant gefnogaeth gan y cynghorydd lleol Ann Bowen Morgan, a ddywedodd fod y cyngor tref a’r siambr fasnach wedi cefnogi’r cynlluniau.
Ychwanegodd bod Llanbedr Pont Steffan yn “ardal ddifreintiedig” ac y byddai pobl yn croesawu bwyd fforddiadwy ar garreg y drws.
Bydd y pwyllgor cynllunio yn ystyried y cais unwaith eto ar 12 Chwefror.