Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Gêm dyngedfennol wrth i’r ddau uchaf gyfarfod yn Neuadd y Parc

Sgorio
Y Seintiau Newydd

Mae’n benwythnos hollbwysig yn nhymor y Cymru Premier JD ac yn y ras am y bencampwriaeth wrth i’r ddau uchaf gyfarfod mewn gêm dyngedfennol yn Neuadd y Parc.

Mae Pen-y-bont wedi methu ag ennill dim un o’u dwy gêm ers yr hollt ac felly mae’r Seintiau Newydd wedi agor bwlch o driphwynt ar y brig ac hynny gyda gêm wrth gefn.

Felly pe bae’r pencampwyr presennol yn cipio’r triphwynt yn fyw ar Sgorio brynhawn Sadwrn yna byddai gan Pen-y-bont fynydd i’w ddringo os am geisio disodli cewri Croesoswallt.

Yn y Chwech Isaf, mae Aberystwyth wedi rhoi llygedyn o obaith i’w hunain drwy guro Llansawel y penwythnos diwethaf, a bellach dim ond pum pwynt sy’n gwahanu’r Gwyrdd a’r Duon a diogelwch y 10fed safle.

CHWECH UCHAF

Y Seintiau Newydd (1af) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 12:15 (Yn fyw arlein)

Mae Pen-y-bont wedi baglu yn y ras am y bencampwriaeth ar ôl colli oddi cartref ym Met Caerdydd cyn cael gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Hwlffordd.

Mae’r Seintiau Newydd felly driphwynt yn glir ar frig y tabl gyda gêm wrth gefn, ac yn anelu i ennill saith gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf y tymor hwn.

Dyw Pen-y-bont heb fynd ar rediad o dair gêm gynghrair heb ennill ers 12 mis, a bydd Rhys Griffiths yn benderfynol o beidio a gadael i hynny ddigwydd ddydd Sadwrn.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill pump o’u chwe gornest flaenorol yn erbyn Pen-y-bont, yn cynnwys buddugoliaeth hwyr iawn yn Neuadd y Parc ym mis Tachwedd pan sgoriodd Daniel Redmond wedi 89 munud i gipio’r triphwynt i’r Seintiau ar ôl i Ben-y-bont fynd ar y blaen o ddwy gôl i ddim yn yr hanner cyntaf (YSN 3-2 Pen).

Ond fe wnaeth Pen-y-bont lwyddo i drechu’r Seintiau o 2-1 ym mis Medi gyda Clayton Green a Chris Venables yn sgorio dau beniad i fechgyn Bryntirion yn Stadiwm Gwydr SDM.

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Pen-y-bont: ͏➖✅✅❌➖

Caernarfon (4ydd) v Hwlffordd (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Caernarfon a Hwlffordd yn mwynhau cyfnodau cadarnhaol, gyda’r Cofis wedi ennill tair yn olynol tra bo’r Adar Gleision heb golli mewn chwe gêm (ennill 4, cyfartal 2).

Pe bae’r Seintiau Newydd yn cyflawni’r dwbl (UGC a Cwpan Cymru), yna byddai’r tîm sy’n gorffen yn ail yn hawlio lle awtomatig yn Ewrop, ac felly bydd Hwlffordd yn awyddus i gau’r bwlch o saith pwynt sydd rhyngddyn nhw â Pen-y-bont er mwyn ceisio camu i’r ail safle.

Byddai gorffen yn drydydd yn fanteisiol i Gaernarfon hefyd, gan y byddai hynny yn golygu un rownd yn llai yn y gemau ail gyfle, ac felly bydd y Caneris yn anelu i gau’r bwlch o saith pwynt sydd rhyngddyn nhw â Hwlffordd.

Dyw Hwlffordd heb golli yn eu pum gornest ddiwethaf yn erbyn y Cofis, yn cynnwys buddugoliaeth ddramatig yn yr eiliadau olaf ar yr Oval ym mis Awst (Cfon 1-2 Hwl).

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ❌❌✅✅✅

Hwlffordd: ✅✅➖✅➖

Met Caerdydd (5ed) v Y Bala (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’n bur anhebygol y bydd y clybiau yma’n gallu codi i’r tri uchaf cyn diwedd y tymor, ac felly adeiladu momentwm ar gyfer y gemau ail gyfle yw’r nod i Met Caerdydd a’r Bala.

Pe bae’r Seintiau Newydd yn cyflawni’r dwbl (UGC a Cwpan Cymru), yna byddai’r tîm sy’n 5ed yn osgoi gêm ychwanegol yn y gemau ail gyfle, gyda’r clybiau sy’n 6ed a 7fed yn cystadlu yn y rownd go-gynderfynol, ac felly byddai gorffen yn 5ed yn hytrach na 6ed yn gallu bod yn fanteisiol.

Triphwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm yma gyda wyth gêm yn weddill yn y tymor arferol, a byddai buddugoliaeth i’r Bala yn eu codi uwchben y myfyrwyr i’r 5ed safle.

Doedd Y Bala heb golli mewn 13 o gemau cynghrair oddi cartref (ennill 2, cyfartal 11) cyn eu colled yn Hwlffordd bythefnos yn ôl (Hwl 3-2 Bala).

Mae diffyg cysondeb wedi bod yn broblem i Met Caerdydd yn ddiweddar gan nad yw’r clwb wedi ennill dwy gêm yn olynol ers mis Medi.

Ond dyw Met Caerdydd m’ond wedi colli un o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 3, cyfartal 4), ac roedd y gêm flaenorol rhwng y timau yn un gofiadwy wrth iddi orffen yn 3-3 ar Gampws Cyncoed ym mis Tachwedd.

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ͏ ❌➖❌✅❌

Y Bala: ✅➖❌✅❌❌

CHWECH ISAF

Cei Connah (8fed) v Llansawel (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd Cei Connah yn bwriadu cadw’r pwysau ar Y Barri yn y ras am y 7fed safle gyda saith pwynt yn gwahanu’r clybiau ar ddechrau’r penwythnos.

Mae Llansawel ddau bwynt yn glir o’r ddau isaf ac yn awyddus i ddringo’n bellach o safleoedd y cwymp.

Er i Gei Connah fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf, mae’r freuddwyd o gyrraedd Ewrop yn dal yn fyw gan fod y Nomadiaid yn un o’r ffefrynnau i ennill Cwpan Cymru JD fel un o’r unig ddau glwb o’r uwch gynghrair ar ôl yn y gystadleuaeth.

Osgoi’r cwymp oedd targed cyntaf Llansawel yn eu tymor cyntaf yn ôl yn yr uwch gynghrair, a chynnal cysondeb sydd wedi bod yn anhawster i’r Cochion sydd heb ennill dwy gêm yn olynol drwy gydol y tymor.

Enillodd Cei Connah eu dwy gêm yn erbyn Llansawel yn rhan gynta’r tymor a dyw’r Nomadiaid m’ond wedi colli un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf.

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ͏ ❌❌❌❌✅

Llansawel: ➖❌✅➖❌

Y Drenewydd (11eg) v Y Barri (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

13 yw’r rhif anlwcus i’r Drenewydd wrth i’r clwb barhau a’u rhediad difrifol o 13 o gemau heb fuddugoliaeth (cyfartal 2, colli 11).

Dyw rheolwr newydd y Robiniaid, Callum McKenzie yn bendant heb gael y dylanwad delfrydol ar y garfan gan i’r Drenewydd ennill dim ond un pwynt allan o’r 27 posib yn y naw gêm ers ei benodiad ym mis Tachwedd.

Dyw’r Drenewydd m’ond wedi ennill un o’u 18 gêm ddiwethaf (Cfon 1-2 Dre), ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed.

Mae’n stori dra gwahanol yn Y Barri, sydd saith pwynt yn glir yn y ras am y 7fed safle, ac sydd wedi penodi Andy Legg yn reolwr ar y clwb wrth i’r Dreigiau ddechrau paratoi am y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.

Mae’r Barri wedi mynd ar rediad o bedair gêm gynghrair heb golli gan ennill eu dwy gêm ers yr hollt yn erbyn Aberystwyth a’r Fflint.

Y Barri oedd yn fuddugol yn y gêm flaenorol rhwng y timau, yn taro pedair yn yr ail hanner ar Barc Latham ym mis Hydref (Dre 2-4 Barr), ond fe wnaeth y Robiniaid guro’r Dreigiau ar Barc Jenner ym mis Awst diolch i ddwy gôl gan eu prif sgoriwr, Aaron Williams (Barr 1-2 Dre).

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ͏ ❌❌❌➖❌

Y Barri: ❌➖➖✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.