
Car yn disgyn ar reilffordd yn achosi oedi i drenau o Gymru
Bydd oedi i rai trenau Trafnidiaeth Cymru ddydd Gwener wedi i gar ddisgyn ar reilffordd yn Salford, ger Manceinion.
Mae delweddau o’r digwyddiad yn dangos y car ben i waered ar y cledrau ac mae hyn wedi achosi cryn oedi i wasanaethau rheilffordd yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Dywedodd Heddlu Manceinion bod dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru. Doedd yr un cerbyd arall yn rhan o’r gwrthdrawiad.
Mae rhai o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, Northern a’r TransPennine Express wedi'u heffeithio.

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: “Yn oriau mân y bore yma, fe wrthdarodd car y rheilffordd ger Cylchfan Regents Road yn Salford gan achosi difrod sylweddol i’r rheilffordd a cheblau trydan uwchben sy’n darparu pŵer i drenau.
“O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, nid oes unrhyw drenau’n gallu rhedeg ar lein Chat Moss rhwng Liverpool Lime Street a Manchester Piccadilly, gan effeithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru, TransPennine Express a gwasanaethau trên Northern.
“Mae ein peirianwyr ar y safle yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i dynnu’r cerbyd oddi ar y traciau ac yn asesu’r sefyllfa er mwyn trwsio’r ceblau sydd wedi’u difrodi cyn gynted â phosibl.
“Rydyn ni’n disgwyl i’r lein fod ar gau am y rhan fwyaf o’r diwrnod."
Ychwanegodd: “Mae’n wir ddrwg gennym i unrhyw deithwyr yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn.
“Rydym yn annog unrhyw un sy’n bwriadu teithio ar y trên rhwng Lerpwl a Manceinion i gynllunio ymlaen llaw a gwirio gyda’u gweithredwr trenau am y wybodaeth deithio ddiweddaraf.”