Ffordd ar gau ym Môn wedi i'r llanw ddifrodi wal

Benllech
Mae rhan o ffordd drwy bentref ym Môn ar gau ar hyn o bryd wedi i'r llanw ddifrodi wal ger yr arfordir.
 
Dywed Cyngor Môn fod Lôn y Traeth, Benllech, ar gau wedi i'r llanw ddinistrio rhannau o'r wal fôr. 
 
Bydd swyddogion y cyngor yn mynd ati i glirio'r ffordd a chynnal arolwg o gyflwr y wal pan fydd yr amodau yn well. 
 
Mae posibilrwydd y bydd llanw uchel eto nos Fawrth yn achosi mwy o ddifrod erbyn y bore meddai'r cyngor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.