Tywysoges Cymru yn ymweld â Melin Tregwynt a Hiut Denim yn y gorllewin

Kate yn cyrraedd Hiut denim

Mae Tywysoges Cymru wedi teithio i dde orllewin Cymru ddydd Mawrth i ymweld â rhai o brif gynhyrchwyr tecstilau'r wlad.

Fe wnaeth y dywysoges ddechrau ei thaith ym Melin Tregwynt, melin wlân ar arfordir Sir Benfro sy'n cynhyrchu blancedi traddodiadol Cymreig. 

Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn tecstilau ac mae hi wedi ymweld â nifer o felinau gwehyddu a gweithgynhyrchwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fe aeth i stiwdio gwehyddu tartan yn Stirling, yr Alban ym mis Ionawr, a'r llynedd ymwelodd â gwneuthurwyr tecstilau yn Sir Gâr, Suffolk, Caint a Sir Tyrone.

Cafodd Melin Tregwynt ei rhedeg am fwy na 100 mlynedd gan y teulu Griffiths, cyn i'r cwmni gael ei sefydlu fel ymddiriedolaeth sy'n eiddo i weithwyr yn 2022.

Yn adnabyddus am eu blancedi moethus, mae'r cwmni'n dal i wehyddu eu tecstilau yn y felin a gafodd ei phrynu gan Henry Griffiths yn 1912.

Image
Tywysoges Cymru ym Melin Tregwynt
Roedd Tywysoges Cymru yn gwisgo cot wlân Gymreig 

Cafodd y dywysoges Catherine ei harwain drwy'r broses gynhyrchu yn ystod taith o amgylch y felin.

Yn yr ystafell rheoli ansawdd, fe wnaeth y dywysoges gyfarfod â Paula Harding, 44, sydd wedi gweithio ym Melin Tregwynt ers 13 mlynedd.

Ar ôl cael gwybod mai Ms Harding oedd trydedd genhedlaeth ei theulu i weithio yno, dywedodd y dywysoges: "Dyna sy’n wych am y busnesau teuluol hyn, maen nhw mor seiliedig ar y teuluoedd hyn a’r cenedlaethau’n trosglwyddo’r technegau hyn."

O dan arweiniad Ms Harding, fe wnaeth Tywysoges Cymru roi cynnig ar drwsio blanced.

Dywedodd Ms Harding: "Fe wnaeth hi’n iawn, mae’n anhygoel, a wnaeth hi ddim mynd drwy’r ochr arall, dyna sgil – mae ganddi’r sgil."

Yn ddiweddarach, fe wnaeth y dywysoges ymweld â Hiut Denim, gwneuthurwr jîns teuluol yn Aberteifi.

Mae'r dref wedi bod yn gartref i gynhyrchu jîns ers yr 1960au, lle roedd ei ffatri jîns gyntaf yn cyflogi mwy na 400 o bobl.

Fe wnaeth y ffatri gau yn 2002 pan symudodd y gwaith cynhyrchu i Foroco, ond daeth Hiut â'r sgiliau gweithgynhyrchu hynny yn ôl pan sefydlwyd y cwmni yn 2011.

Image
Kate yn ffatri Hiut
Rhoddodd gynnig ar dorri pâr o jîns yn ffatri Hiut Denim

Ar ôl cyrraedd Hiut Denim, fe wnaeth y dywysoges gyfarfod â’r prif weithredwr Johann von Loeper.

Yn ystod ei hamser yno rhoddodd gynnig ar dorri pâr o jîns Mari a fydd ar werth yn fuan i fenywod.

"Rwyf wrth fy modd yn gwneud pethau, felly rwy’n credu y byddwn i wir yn mwynhau gwneud jîns," meddai.

"Y mwyaf anturus dwi wedi bod oedd gwneud pâr o byjamas… a dydw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd nawr."

Fe aeth y dywysoges ymlaen i lawr y ffatri lle dysgodd am hanes y cwmni a chafodd gyfle i wnïo label "Gwnaed yng Nghymru" ar bâr o jîns Hack.

Pan gafodd wybod bod y trowsus yn anrheg i’w gŵr, atebodd: "Bydd wrth ei fodd gyda'r rhain."

Fel diolch am ei hymweliad cafodd bâr o jîns Mari iddi hi ei hun, a’r jîns Hack i Dywysog Cymru.

Cyn gadael, fe aeth i sgwrsio gyda phobl leol oedd wedi ymgynnull y tu allan i’r ffatri.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.