Rhai athrawon 'yn anhapus’ gyda’r awgrym nad oedden nhw’n ‘hyderus’ i ddysgu cwrs TGAU hanes
Mae arbenigwr ar ddysgu hanes Cymru wedi dweud bod athrawon yn anhapus gyda’r awgrym nad oedden nhw’n “hyderus” i ddysgu cwrs hanes TGAU newydd.
Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud y bydd oedi i’r cwrs TGAU hanes newydd a oedd i fod i gael ei gyflwyno fis Medi eleni.
Roedd hynny am nad oedd nifer o'r athrawon "ddim yn barod neu'n hyderus" yn ei gyflwyno.
Mae undeb addysg NASUWT wedi croesawu’r penderfyniad gan ddweud y bydd athrawon yn cael budd o’r flwyddyn ychwanegol i gynllunio.
Ond dywedodd Dr Huw Griffiths, uwch ddarlithydd addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, nad oedd yn credu bod yr honiad nad oedd athrawon yn “hyderus” yn wir.
Dywedodd bod athrawon yr oedd wedi siarad â nhw yn “gandryll” gyda’r awgrym a oedd mewn perygl o “fychanu” eu hymdrechion nhw.
Roedd yr athrawon rheini ddim yn hoffi cynnwys y TGAU newydd meddai am ei fod yn cyfyngu ar y cyfleoedd i drafod hanes modern Cymru.
“Rydw i’n cefnogi'r penderfyniad yn sicr ond mae’n un camarweiniol iawn,” meddai wrth Radio Cymru.
“Mae’r datganiad yn dweud bod yr athrawon ddim yn barod a ddim yn hyderus.
“Mae penaethiaid hanes ydw i wedi siarad â nhw yn gandryll mae dyna’r disgrifiad.
“Mae bron a bod yn bychanu athrawon hanes ledled Cymru.
“Mae’r athrawon yn erbyn cynnwys y cwrs newydd yma. Ac mae hynny ddim yn cael ei ddatgan yn y cyhoeddiad sydd wedi ei wneud. Y pwyslais oedd ar y cynnwys.”
‘Mwy o hanes’
Yn ei lythyr at ysgolion, dywedodd Cymwysterau Cymru fod undebau a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru wedi codi pryderon bod maint y newid a’r llwyth gwaith sy’n wynebu athrawon hanes yn fwy nag mewn pynciau eraill.
Ychwanegodd fod Cymwysterau Cymru, ynghyd â bwrdd arholi CBAC a Llywodraeth Cymru, wedi gwrando ar bryderon ac wedi gohirio cyflwyno TGAU hanes tan fis Medi 2026.
Bydd y cwrs hanes newydd yn cynnwys mwy o ffocws ar hanes Cymru ac ehangu'r ystod o gyfnodau a phynciau dan sylw, meddai Cymwysterau Cymru.
Ond dywedodd Dr Huw Griffiths nad oedd yr un pwysais ar hanes Cymru ar y cwrs TGAU ac oedd yng ngwledydd a rhanbarthau eraill y DU.
“O’i gymharu gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon mae hanes Cymru yn llawer, llawer llai yn hynny o beth - canran llawer is na beth sy’n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai.
“Dyw hynny ddim yn deg yn fy marn i - mae’n rhaid bod hanes Cymru yn cael lle canolog y tu fewn i’r cwricwlwm TGAU ni.”
Ychwanegodd: “Mae’r datganiad yn dweud eu bod nhw’n cynyddu hanes Cymru yno fe - mae hynny’n gamarweiniol i raddau helaeth wedyn.
“Pe bai’r cwrs yn aros fel mae o ar hyn o bryd - a barn bersonol yw hyn - bydd yn lladd hanes Cymru fel mae o ar hyn o bryd i bobl ifanc yng Nghymru.”
Mae Newyddion S4C wedi holi am ymateb Cymwysterau Cymru.