Newyddion S4C

Donald Trump yn cyhuddo'r Llys Troseddol Rhyngwladol o ‘gam-drin ei bŵer’

Donald Trump

Mae Arlywydd yr UDA Donald Trump wedi arwyddo gorchymyn yn gosod sancsiynau ar y Llys Troseddol Rhyngwladol (ICC).

Mae Mr Trump wedi cyhuddo'r ICC o “gamau anghyfreithlon a di-sail yn targedu America a’n cynghreiriad agos Israel”.

Fe ddaw’r gorchymyn gweithredol diweddaraf wrth i farnwr ffederal yr Unol Daleithiau rwystro cynllun Mr Trump dros dro i leihau nifer gweithwyr y llywodraeth.

Mae gorchymyn yr ICC yn cynnwys sancsiynau ariannol a theithio yn erbyn y sefydliad a'i swyddogion, ac aelodau o'u teulu, y canfyddir eu bod wedi cynorthwyo mewn ymchwiliadau i ddinasyddion a chynghreiriaid yr Unol Daleithiau, yn ôl NBC News.

Mae'r gorchymyn yn cyd-fynd ag ymweliad â Washington gan Brif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu sydd, ynghyd â'i gyn-weinidog amddiffyn Yoav Gallant, yn cael eu herlyn gan yr ICC dros y rhyfel yn Gaza.

Mae'r gorchymyn gweithredol yn nodi fod yr ICC wedi "camddefnyddio ei bŵer ymhellach".

Nid oedd yn glir pryd y byddai'r Unol Daleithiau yn cyhoeddi enwau'r rhai a gosbwyd.

Mae'r ICC wedi condemnio gorchymyn Mr Trump.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.