Newyddion S4C

Dydd Miwsig Cymru yn 10: Hen ganeuon Cymraeg yn helpu DJ i ddysgu'r iaith

Dafydd Iwan a Don Leisure

Wrth i Ddydd Miwsig Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed ddydd Gwener, mae cynhyrchydd a DJ wedi dweud ei fod wedi’i ysbrydoli gan hen ganeuon Gymraeg – ag yntau bellach yn dysgu’r iaith o ganlyniad. 

Yn wreiddiol o Aberdâr, mae’r DJ Don Leisure yn defnyddio hen ganeuon “cŵl Cymru” er mwyn creu cerddoriaeth hip-hop newydd. 

Fel rhan o’i albwm newydd, mae’n samplo hen ganeuon oddi archif cerddorol cwmni recordio Sain – a gafodd ei sefydlu gan ddau o gewri’r byd cerddoriaeth Cymraeg, Dafydd Iwan a Huw Jones yn 1969. 

Mae rhai o draciau eiconig Delwyn Siôn, Heather Jones, Edward H Dafis a Brân bellach ymhlith y caneuon sy’n ymddangos ar ei newydd wedd yn ei albwm, Tyrchu Sain, a'r rheiny wedi ei helpu iddo ddechrau dysgu Cymraeg. 

Ag yntau wedi’i fagu gan deulu di-Gymraeg, dywedodd Don Leisure ei fod wedi  ei “synnu” pan ddysgodd am yr holl gerddoriaeth “cŵl” oedd yn bodoli yng Nghymru. 

“O’n i wedi gweld un neu ddwy record Cymraeg pan o’n i ‘di mynd yn siopa am recordiau, ond oedd e wastad yn grwpiau o hen ddynion ar y clawr, neu gorau," meddai. 

“Mae recordiau Cymraeg cŵl fel yr hyn dwi wedi samplo yn anodd dod o hyd iddyn nhw yng Nghymru, heb sôn am unrhyw le arall,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

Image
Don Leisure a Dafydd Iwan
Don Leisure a Dafydd Iwan yn Stiwdio Sain yn Llandwrog

Dechrau'r daith

Mae’r artist bellach yn angerddol dros geisio gwella mynediad pobl sydd mewn sefyllfa debyg iddo fe at gerddoriaeth Cymraeg.  

Fe ddechreuodd ei yrfa fel DJ yn 2000 ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi cynhyrchu nifer o draciau sydd wedi’u hysbrydoli gan wledydd ac ieithoedd gwahanol. 

Dywedodd ei fod wedi cael ei ddylanwadu gan gerddoriaeth o Dwrci, yr Eidal, Japan yn ogystal â cherddoriaeth gan yr Undeb Sofietaidd yn y gorffennol. 

“Tra o’n i’n neud hyn, des i’n ffrindiau gyda Gruff Rhys ac Andy Votel. Nhw oedd y rhai a wnaeth fy nghyflwyno i i Welsh Rare Beat gan Finders Keepers, sef casgliad o hen recordiau Sain. 

“Dyna beth wnaeth rhoi cerddoriaeth Cymraeg yn fy mhen… dyna le dechreuodd y daith.

“Dwi’n ‘nabod y rhan fwyaf o gynhyrchwyr yng Nghymru ac o’n i jest yn meddwl, so’ unrhyw un arall am ‘neud hyn felly dwi am roi go arni,” meddai. 

Mae’n dweud bod artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys, Gwenno, Carwyn Ellis, Brân a Delwyn Siôn bellach ymhlith y Cymry Cymraeg sy’n ei ysbrydoli ef y fwyaf. 

Image
Don Leisure

'Cŵl'

Gyda chysylltiadau cryf â’r DJ a sylfaenydd Dydd Miwsig Cymru, Huw Stephens, mae Don Leisure yn dweud bod y diwrnod yn hollbwysig er mwyn denu cynulleidfa newydd at gerddoriaeth Cymraeg. 

“Maen nhw wedi tynnu hen bethau o’r gorffennol a chyflwyno hynny mewn ffordd newydd a chyfoes," meddai.

“Dyddiau yma mae ‘na fwy o gerddoriaeth cŵl yn dod allan o Gymru… a doedd hwnna ddim wastad yn wir.

"Mae'r fath o gerddoriaeth sy'n dod o Gymru yn anhygoel."

Wrth drafod ei albwm newydd, dywedodd: “Dwi jest yn hapus i fod mewn sefyllfa ble alla’i godi ymwybyddiaeth am gerddoriaeth Cymraeg – hen gerddoriaeth a cherddoriaeth newydd,” meddai. 

Image
Tyrchu Sain
Tyrchu Sain

Bydd albwm newydd Don Leisure ‘Tyrchu Sain’ ar gael i’w brynu ar 28 Chwefror. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.