£28 miliwn i atgyweirio to ysbyty yn y de
Fe fydd y gost o atgyweirio to ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd wedi gorfod cau wardiau ar ôl cael ei ddifrodi yn £28 miliwn yn ôl Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, ddydd Gwener y bydd y to newydd yn galluogi Ysbyty Tywysoges Cymru i ailagor ei wardiau.
Cafodd gwasanaethau, theatrau a wardiau yn yr ysbyty eu hadleoli i fannau eraill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mis Hydref.
Roedd hynny oherwydd bod y to 40 oed wedi methu, gan ollwng dŵr glaw i mewn i'r adeilad.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ailosod tua 10,000 metr sgwâr o’r to.
Mae’r gwaith atgyweirio eisoes ar y gweill, gan olygu ei bod yn bosibl i wasanaethau hanfodol ddychwelyd i’r ysbyty.
Gofal mamolaeth a gofal i fabanod sydd newydd eu geni fydd y gwasanaethau cyntaf i ddychwelyd.
Mae gwaith i godi safon y cyfleusterau trydan a mesurau diogelwch tân hefyd yn cael ei wneud ar yr un pryd.
Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn yr haf.
'Sicrhau diogelwch'
Dywedodd Jeremy Miles y bydd y to newydd yn "sicrhau diogelwch miloedd o bobl".
"Bydd y cyllid brys yn helpu i ailagor wardiau ac yn dod â gwasanaethau hanfodol eraill yn ôl i Ben-y-bont ar Ogwr," meddai.
"Bydd yn sicrhau diogelwch miloedd o bobl sy’n mynd i’r ysbyty bob dydd.
"Hoffwn i ddiolch i’r bwrdd iechyd, ac i’r cleifion, y staff, a phawb sy’n ymwneud â'r prosiect enfawr hwn am eu hamynedd a’u dealltwriaeth."