Newyddion S4C

Cân morfil yn debycach i iaith ddynol na'r hyn a gredwyd o'r blaen

07/02/2025
Morfilod

Mae cân morfil yn debycach i iaith ddynol na'r hyn a gredwyd o'r blaen, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae'r astudiaeth, a gafodd ei chynnal gan academyddion Prifysgol St Andrews, wedi canfod bod cân morfil yn dilyn "strwythur tebyg i iaith" am y tro cyntaf.

Y gred oedd yn flaenorol mai dim ond iaith ddynol oedd yn dilyn y strwythur hwn.

Mae hyn yn awgrymu bod cân morfil, fel iaith ddynol, yn cael ei drosglwyddo’n "ddiwylliannol", sy'n golygu bod morfilod yn dysgu oddi wrth ei gilydd.

'Annisgwyl'

Defnyddiodd yr academyddion ddulliau a gafodd eu hysbrydoli gan sut mae babanod yn darganfod geiriau.

Mae pob iaith ddynol yn dilyn patrwm cyffredinol lle mae ychydig eiriau'n cael eu defnyddio'n aml iawn, tra bod y rhan fwyaf o eiriau'n ymddangos yn anaml.

Mae’r rhagweladwyedd hwn yn allweddol i sut mae babanod yn dysgu iaith, wrth iddyn nhw wrando ar batrymau seiniau yn eu hiaith.

Dywedodd Dr Ellen Garland, arweinydd yr ymchwil, bod canfyddiadau'r astudiaeth yn "annisgwyl".

"Ond mae’n awgrymu’n gryf fod gan yr ymddygiad diwylliannol hwn fewnwelediad hollbwysig i esblygiad cyfathrebu cymhleth yn y deyrnas anifeiliaid," meddai.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.