Cymru’n gweld y cynnydd mwya’ mewn siopwyr ym mis Ionawr
Mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf flwyddyn ar flwyddyn yn nifer y siopwyr stryd fawr ym mis Ionawr.
Fe aeth nifer y siopwyr i fyny 8.5% yng Nghymru o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, yn ôl data Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC).
Roedd hynny o’i gymharu gyda chynnydd o 7.4% yn Lloegr, 3.5% yng Ngogledd Iwerddon ac 1% yn yr Alban.
Daw’r cynnydd o 6.6% ar draws y DU wedi cwymp o 2.2% yn nifer y siopwyr ym mis Rhagfyr.
Roedd y cynnydd er gwaethaf Storm Éowyn a darodd y DU ar benwythnos 24 Ionawr.
Dywedodd prif weithredwr BRC, Helen Dickinson: “Mae mwy o siopwyr yn newyddion i’w groesawu ar y stryd fawr yn dilyn tri mis arbennig o anodd hyd at ddiwedd 2024.
“Mae manwerthwyr eisiau buddsoddi mwy mewn siopau a staff i wella’r profiad siopa i gwsmeriaid a helpu i dyfu’r economi.”