Carcharu dyn o'r gogledd am ymosodiadau ar ei gyn bartner
Mae dyn 26 oed wedi’i garcharu am drais domestig yn erbyn ei gyn bartner.
Fe wnaeth Cailum Jones, o Gwenfro, Wrecsam, gyfaddef i achosi niwed corfforol difrifol a dau gyhuddiad o ymosod ar y ddioddefwraig.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau lle cafodd ei garcharu am ddwy flynedd.
Cafodd hefyd orchymyn i gadw draw rhag y dioddefwr am bum mlynedd.
Yn oriau mân 11 Tachwedd y llynedd, cafodd swyddogion eu galw i gartref y dioddefwr ar ôl i Jones ei phwnio yn ei hwyneb, gan adael anaf uwchben ei gwefus a thorri ei dannedd.
Cafodd ei arestio a’i ryddhau’n ddiweddarach ar fechnïaeth gydag amodau i beidio â chysylltu â hi.
Yn dilyn ei arestio, datgelodd y dioddefwr fod Jones wedi ymosod arni sawl gwaith yn y gorffennol dros gyfnod o 12 mis.
Dywedodd ei fod ar ddau achlysur wedi gafael yn ei gwallt ac wedi ymosod arni yn ystod ffrae.
Ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei arestio, torrodd Jones amodau ei fechnïaeth ac fe gafodd ei gyhuddo o’r troseddau.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Troy Williams: “Mae ymddygiad treisgar tuag at fenywod yn anfaddeuol ac ni fydd yn cael ei oddef.
“Rwy’n canmol dewrder y dioddefwr, sy’n anffodus yn dal i ddioddef effeithiau corfforol ac emosiynol y digwyddiadau, am adrodd am yr hyn a ddigwyddodd iddi ac am gefnogi’r ymchwiliad yn ystod cyfnod anhygoel o anodd.
“Rwy’n annog dioddefwyr cam-drin domestig i godi eu lleisiau - bydd rhywun yn gwrando arnoch, a byddwn yn ymchwilio’n llawn i bob adroddiad er mwyn dod â throseddwyr o flaen eu gwell.”