‘Argyfwng cenedlaethol’: Cyhoeddi y bydd timau arbenigol ym mhob heddlu i ddal treiswyr
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pob heddlu yng Nghymru a gweddill y DU yn cyflwyno timau ymchwilio arbenigol i ddal troseddwyr “ffiaidd” sy’n gyfrifol am droseddau rhywiol yn erbyn menywod.
Dyma fydd yr ymgais mwyaf i atal trais sy’n cael ei gyflawni yn erbyn menywod a merched yn hanes Prydain, meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood.
Bydd “ymchwilwyr arbenigol” yn dal ac yn anfon treiswyr a throseddwyr rhyw i’r carchar ledled y wlad, meddai.
Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan AS Pontypridd, Alex Davies-Jones, yr Is-ysgrifennydd Seneddol dros fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Mae 200 achos o dreisio yn cael eu cofnodi gan yr heddlu ar gyfartaledd bob dydd, a’r gred yw bod y gyfran nad ydynt yn cael eu hadrodd yn uwch o lawer.
Yn yn ôl yr elusen Rape Crisis sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr dim ond tri ym mhob 100 o'r achosion o dreisio a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2024 arweiniodd at gyhuddo rhywun o fewn yn yr un flwyddyn.
Mae’r offer a’r tactegau a ddefnyddir i orfodi’r gyfraith “wedi dyddio”, gan adael dynion a bechgyn i droseddu “heb unrhyw ganlyniadau," meddai’r Swyddfa Gartref.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, bod trais yn erbyn menywod a merched “yn argyfwng cenedlaethol”.
“Am gyfnod rhy hir, mae’r troseddau hyn wedi cael eu hystyried yn rhan o fywyd,” meddai. “Nid yw hynny’n ddigon da. Byddwn yn haneru eu nifer mewn degawd.
“Heddiw rydym yn cyhoeddi ystod o fesurau i fynd i’r afael â phobl sy’n cam-drin, gan eu hatal yn y fan a’r lle. Ni fydd gan dreiswyr, troseddwyr rhyw a phobl sy’n cam-drin unman i guddio.”
Daw’r cyhoeddiad wrth i Lywodraeth y DU ddweud y bydd ysgolion uwchradd yn Lloegr yn dysgu myfyrwyr am berthnasoedd iach er mwyn mynd i’r afael â cham-drin menywod.
Dywedodd Syr Keir Starmer fod syniadau gwenwynig yn rhy aml yn “mynd heb eu herio”.
Bydd athrawon yn cael hyfforddiant arbenigol i siarad â disgyblion am faterion fel caniatâd.
Bydd plant sy’n achosi niwed i rieni, brodyr a chwiorydd neu gariadon yn cael eu cofrestru ar gyfer rhaglenni newid ymddygiad.
Gallai plant ysgol uwchradd mor ifanc â 11 oed, bechgyn yn bennaf, gael eu hanfon ar y cyrsiau hyfforddi os ydynt yn arddangos ymddygiad pryderus, yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Times.