Galw am ledaenu hapusrwydd nid casineb ar ddiwrnod angladd dioddefwr 10 oed saethu traeth Bondi
Ar ddiwrnod ei hangladd mae teulu merch 10 oed a fu farw yn saethu traeth Bondi wedi galw am beidio â defnyddio ei marwolaeth i feithrin casineb.
Roedd Matilda yn un o 15 o bobl a gafodd eu lladd mewn digwyddiad i nodi dechrau Hanukkah yn Sydney ddydd Sul.
Dywedodd ei modryb, Lina Chernykh, yn ei hangladd y dylai ’r gymuned ddilyn esiampl Matilda a lledaenu cariad.
“Cymerwch eich dicter a lledaenwch hapusrwydd a chariad er cof am fy nith hyfryd,” meddai Ms Chernykh.
“Rwy’n gobeithio ei bod hi’n angel nawr. Efallai y bydd hi’n anfon rhywfaint o ddaioni i’r byd.”
Dywedodd ei bod hi’n cefnogi rhagor o weithredu er mwyn lleihau agweddau gwrth-Semitaidd mewn cymdeithas.
Mae Llywodraeth Awstralia wedi cyhoeddi ddydd Iau y bydd yn cyflwyno diwygiadau i fynd i’r afael ag iaith casineb.
Ymhlith y mesurau arfaethedig mae cosbau cynyddol am hyrwyddo trais, creu trosedd newydd o araith gasineb waethygedig ar gyfer pregethwyr ac arweinwyr sy’n hyrwyddo trais, a datblygu cyfundrefn i restru sefydliadau y mae eu harweinwyr yn hyrwyddo trais neu gasineb hiliol.
Dywedodd Anthony Albanese, Prif Weinidog Awstralia: “Mae’n amlwg bod angen i ni wneud mwy i frwydro yn erbyn y pla hwn – llawer mwy.”
Fe gafodd y dyn sy'n cael ei amau o saethu nifer yn nhraeth Bondi ei gyhuddo ddydd Mercher.
Mae Naveed Akram yn wynebu 59 cyhuddiad gan gynnwys 15 o lofruddiaeth ac un o weithredu terfysgol.
Fe gafodd Akram ei anafu yn ystod yr ymosodiad.
Mae Akram hefyd yn wynebu 40 o gyhuddiadau o achosi niwed corfforol difrifol gyda'r bwriad o lofruddio ac un cyhuddiad o arddangos symbol mudiad terfysgol sydd wedi ei wahardd.
Cafodd y dyn arall wnaeth saethu at bobl ar y traeth sef ei dad, Sajid Akram ei ladd gan yr heddlu yn ystod yr ymosodiad.
Mae 20 o bobl yn parhau yn yr ysbyty wedi eu hanafu gydag un person mewn cyflwr difrifol.