Reform UK ar y blaen yng Nghymru mewn arolwg barn San Steffan

Senedd San Steffan

Mae Reform UK yn dal i fod ar y blaen o ran bwriadau pleidleisio San Steffan yng Nghymru, yn ôl amcangyfrif arolwg barn newydd a gyhoeddwyd ddydd Iau.

Daw’r arolwg gan YouGov a Phrifysgol Caerdydd wedi arolwg ddydd Mercher o fwriad pleidleisio pobl yn etholiadau’r Senedd, oedd yn awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen a Reform yn yr ail safle.

Yn eu dadansoddiad dywedodd Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd bod arolwg barn San Steffan yn awgrymu bod cefnogaeth pleidleiswyr canol-chwith wedi ei rannu rhwng sawl plaid.

Roedd hynny yn sgil y cynnydd mewn cefnogaeth i'r Gwyrddion, medden nhw.

Mae'r arolwg barn diweddaraf gan YouGov ar ran Brifysgol Caerdydd yn dangos fod cefnogaeth Reform UK ar 30%, gyda cefnogaeth pleidleisiau canol-chwith wedi ei rannu’n weddol gyfartal rhwng Plaid Cymru (19%), Llafur (15%), a'r Gwyrddion (14%). 

Mae’r Ceidwadwyr yn parhau o dan wasgfa gyda cefnogaeth o 13%.

“Mewn gwrthgyferbyniad â arolwg barn y Senedd sy'n dangos fod pleidleiswyr y canol-chwith yn cydgrynhoi y tu ôl i Blaid Cymru, mae bwriadau pleidleisio San Steffan yn awgrymu fod pleidleiswyr y canol-chwith wedi eu rhannu tra fod pleidleiswyr y dde wedi cydgrynhoi o amgylch Reform UK,” meddai dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru.

“Petai’r patrwm yma’n parhau tan yr etholiad cyffredinol nesaf yna fe fydd gan hyn oblygiadau pellgyrhaeddol iawn yng nghyd-destun system bleidleisio cyntaf i'r felin.”

Bwriadau pleidleisio San Steffan (heb gynnwys ddim yn pleidlesio neu Ddim yn Gwybod):

  • Reform UK 30%
  • Plaid Cymru 19%
  • Llafur 15%
  • Gwyrddion 14%
  • Ceidwadwyr 13%
  • Dem Rhyddion 8%
  • Eraill 2%

Fe gafodd yr arolwg barn ei gynnal rhwng 28 Tachwedd a 10 Rhagfyr gan holi 2,500 o oedolion yng Nghymru ar-lein. 

Y Senedd

Roedd arolwg barn Senedd Cymru 2026 ddydd Mercher yn awgrymu fod cefnogaeth i Lafur wedi gostwng eto, tra bod Plaid Cymru yn parhau ar y blaen a Reform UK yn ail. 

Yn debyg i arolygon barn diweddar, mae'r arolwg yn awgrymu fod Plaid Cymru ar y blaen o ran bwriadau pleidleisio, gyda 33%, a Reform UK yn ail gyda 30%. 

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu fod cefnogaeth Llafur wedi syrthio i 10%, o gymharu â 14% o'r arolwg barn diweddar a gafodd ei gynnal gan YouGov ac ITV Cymru ym mis Medi. 

Mae'r arolwg diweddaraf yn awgrymu fod y Ceidadwyr ar 10%, tra bod y Blaid Werdd ar 9% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%.

Bwriadau pleidleisio Senedd (heb gynnwys ddim yn pleidlesio neu Ddim yn Gwybod):

  • Plaid Cymru 33%
  • Reform UK 30%
  • Llafur 10%
  • Ceidwadwyr 10%
  • Gwyrdd 9%
  • Dem Rhyddion 6%
  • Arall 3%

O dan y system bleidleisio newydd a fydd yn cynnwys 96 o aelodau etholedig, mae’r arolwg yn awgrymu y bydd gan Blaid Cymru 39 o seddi, llai na’r nifer fyddai ei angen ar gyfer mwyafrif, sef 49.

Fe fyddai hynny’n golygu bod angen clymbleidio neu dod i gytundeb gyda blaid neu bleidiau eraill er mwyn gallu llywodraethu.

Rhagamcan seddi:

• Plaid Cymru - 39

• Reform UK - 34

• Llafur - 10

• Ceidwadwyr - 6

• Gwyrdd – 4

• Democratiaid Rhyddfrydol - 3

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.