Carcharu dyn o Wynedd am stelcian dynes
Mae dyn o Lanystumdwy yng Nghwynedd a oedd eisoes wedi ei gael yn euog o ladrata wedi cael ei garcharu am stelcian dynes.
Fe wnaeth Dale Myles Selby ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth ar ôl iddo gyfaddef i stelcian.
Ym mis Medi 2025, roedd Selby wedi anfon negeseuon llais bygythiol at ddynes ar ôl honni ei bod wedi anfon arian ato i’r cyfrif banc anghywir.
Roedd y dyn 37 oed wedi bygwth torri drws tŷ'r ddynes i lawr ac ymosod arni hi a’i gŵr.
Fe wnaeth Selby barhau i anfon sawl nodyn llais bygythiol at y ddynes, gan ei gadael mewn ofn y byddai trais yn cael ei ddefnyddio yn ei herbyn.
Mae Selby wedi cael ei garcharu am chwe mis am stelcian ac mae'n destun gorchymyn camdriniaeth ddomestig am bum mlynedd.
Roedd eisoes wedi cael dedfryd o garchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd am ladrata.
Fe gafodd ei garcharu am gyfanswm o ddwy flynedd a hanner.
'Gwarthus'
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Jones: "Mae ymddygiad Selby tuag at fenyw a oedd yn ceisio ei helpu yn warthus.
"Ni fydd bygythiadau o drais tuag at fenywod yn cael eu goddef a byddwn yn parhau i fynd ar ôl y rhai nad ydynt yn parchu’r gyfraith yn ddidrugaredd.
"Rwy’n annog unrhyw un sy’n profi bygythiadau o drais i ddod ymlaen a cheisio cefnogaeth.
"Byddwn yn gwrando ac yn ymchwilio i’ch adroddiad."