Rhybudd melyn am law trwm i rannau o'r de
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i rannau o dde Cymru.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 10.00 ddydd Iau ac yn parhau hyd at 19.00.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y gallai rhai ardaloedd ddioddef llifogydd yn sgil y tywydd garw.
"Bydd ardal o law trwm yn symud tua'r gogledd-ddwyrain ar draws yr ardal rhybuddio yn ystod y bore a'r prynhawn cyn clirio i'r dwyrain gyda'r nos," meddai.
"O ystyried y tywydd gwlyb iawn diweddar, mae potensial am rywfaint o darfu ar deithio ac mae llifogydd yn bosib."
Mae disgwyl i rhwng 15-25 mm o law ddisgyn o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 50 mm yn bosib ar dir uchel.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
• Abertawe
• Blaenau Gwent
• Bro Morgannwg
• Caerdydd
• Caerffili
• Casnewydd
• Castell-nedd Port Talbot
• Ceredigion
• Merthyr Tudful
• Rhondda Cynon Taf
• Sir Benfro
• Sir Gaerfyrddin
• Sir Fynwy
• Pen-y-bont ar Ogwr
• Powys
• Torfaen