Dydd Miwsig Cymru: Cofnodi hanes fideos cerddorol Cymraeg ar wefan newydd
Ar Ddydd Miwsig Cymru mae ymchwilwyr wedi lansio gwefan newydd i gofnodi hanes fideos cerddorol Cymraeg.
Ffrwyth prosiect ymchwil yw gwefan fideos.cymru gan ddau ddarlithydd o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Greg Bevan a Dr Kate Woodward.
Dywedodd y ddau eu bod nhw’n credu bod teledu wedi chwarae rhan bwysicach na labeli recordio masnachol yn natblygiad fideos cerddorol Cymraeg dros y 50 mlynedd diwethaf.
Wrth i sianel 24-awr MTV ymddangos ar y llwyfan byd-eang ar ddechrau'r 1980au, dyfodiad S4C fu’n bennaf gyfrifol am lywio’r broses o gynhyrchu fideos cerddorol yng Nghymru ar y pryd.
Mae’r canfyddiad wedi’i gynnwys ar y wefan newydd sy’n dogfennu datblygiad fideos cerddoriaeth Gymraeg dros gyfnod o fwy na 50 mlynedd.
Dywedodd Dr Greg Bevan fod y prosiect wedi amlygu gwahaniaethau arwyddocaol rhwng yr hyn oedd yn gyrru cynhyrchu fideos cerddorol Cymraeg a fideos Eingl-Americanaidd.
“Mae hanes hynod yn perthyn i ddatblygiad y fideo gerddorol dros y byd ers twf y cyfrwng hwn yn y 1970au hwyr a’r 1980au cynnar,” meddai.
“Yma yng Nghymru ar y pryd, roedd y tirlun gwleidyddol, diwydiannol a chymdeithasol yn wahanol iawn, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y fideos oedd yn cael eu creu.
“Un o’r prif wahaniaethau sydd wedi dod i’r amlwg fel rhan o’n hymchwil yw fod fideos Eingl-Americanaidd yn cael eu cynhyrchu gyda’r prif nod o werthu a hyrwyddo’r caneuon diweddaraf fel rhan o ymgyrch farchnata fwy gan y cwmnïau recordio mawr.
“Dyw’r ochr fasnachol hynny ddim wedi bod mor amlwg yng Nghymru. Yma, mae’r angen i hyrwyddo diwylliant celfyddydol mewn iaith leiafrifol wedi bod yn ffactor holl bwysig, ochr yn ochr â dylanwadau gwrth-sefydliadol, isddiwylliannol eraill.”
‘Eiconig’
Dywedodd Dr Kate Woodward eu bod nhw wedi cyfweld rhai o brif artistiaid a chynhyrchwyr Cymru am eu profiadau nhw o greu fideos cerddorol.
Yn eu plith roedd Dafydd Iwan, Cerys Hafana, Geraint Jarman, Eddie Ladd, Rhys Mwyn a Dafydd Rhys.
“Roedden ni am siarad yn uniongyrchol â’r bobl sydd wedi bod ynghlwm â chynhyrchu fideos cerddorol Cymraeg dros y blynyddoedd a rhannu eu mewnwelediadau nhw â chynulleidfaoedd ehangach drwy’r wefan,” meddai.
“Beth wnaethon ni ddarganfod oedd mai’r diwydiant teledu – ac S4C yn benodol – oedd yn bennaf gyfrifol am yrru’r ochr gynhyrchu gan ddarparu nid yn unig llwyfan darlledu ond hefyd y cyllid angenrheidiol.
“Mae hynny’n groes i’r duedd Eingl-Americanaidd lle mai’r labeli recordio oedd yn symud pethe ymlaen yn bennaf.
“Roedd cyfres eiconig Fideo 9 ar S4C wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y fideo gerddorol Gymraeg, gan gynhyrchu rhyw bedair fideo newydd bob wythnos pan oedden nhw ar yr awyr rhwng 1988 ac 1991.
“Bu Bandit ar yr awyr rhwng 2004 a 2011, ac mae Lŵp wedi bod yn cynnig llwyfan trawsblatfform i gerddoriaeth o Gymru ers 2019.
“Ry’n ni hefyd erbyn hyn mewn cyfnod newydd lle mae artistiaid yn fwyfwy tebygol o greu eu fideos ar eu liwt eu hunain a’u hyrwyddo ar yr ystod o ffrydiau’r cyfryngau cymdeithasol.”