Newyddion S4C

Caernarfon: ‘Dim penderfyniad’ eto ar ddyfodol Swyddfa'r Post yn y dref

06/02/2025
Post

Does ‘dim penderfyniadau’ wedi eu gwneud eto am ddyfodol Swyddfa'r Post yng Nghaernarfon wedi i ddeiseb gael ei chyflwyno i benaethiaid ei hachub.

Cafodd deiseb gyda 1,633 o lofnodion ei chyflwyno yn San Steffan yn galw ar y gangen yng nghanol y dref i gael ei hachub.

Cadarnhaodd Swyddfa’r Post yn ddiweddar y gall 115 o ganghennau gael eu cau, gyda safle Caernarfon ymhlith y rhai sydd dan ystyriaeth.

Mae’r Swyddfa’r Post wedi dweud eu bod yn ‘ystyried amryw o opsiynau’ i leihau costau canolog, ac y gallai’r canghennau sydd dan fygythiad gael eu rhyddfreinio i adwerthwr neu bostfeistr annibynnol yn y pen draw.

Mewn cyfarfod ddydd Llun, cyflwynodd yr AS dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts y ddeiseb i Nigel Railton, cadeirydd Swydfa’r Post.

Roedd y ddeiseb wedi ei chreu gan wleidyddion Plaid Cymru'n lleol.

Cwtogi gwasanaethau gwledig

Daw’r bygythiad i Swyddfa Bost Caernarfon ar ôl toriad i nifer o wasanaethau mewn rhannau gwledig o Wynedd, yn dilyn ymddiswyddiad postfeistr Swyddfa Bost Cricieth.

Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod yn “hollol glir” bod y bobl leol eisiau i’r Swyddfa Bost aros ar agor yng Nghaernarfon.

“Mae pobl yn rhoi gwerth aruthrol ar y cyfleustra o allu galw i mewn i'w cangen Swyddfa'r Post leol, boed ar gyfer eu hanghenion personol neu ar gyfer busnes.”

Ychwanegodd mai Swyddfa Bost Caernarfon ydy’r un o’r unig lefydd y gall pobl y dref gael mynediad at wasanaethau bancio, yn dilyn cau bifer o fanciau’r stryd fawr yno.

“Yn bennaf oll, gwasanaeth cyhoeddus yw Swyddfa’r Post” meddai, “ac eto mae’n ymddangos mai ychydig iawn o ymgysylltu â’r cyhoedd a chynllunio strategol sydd wedi bod lle mae angen sicrhau a chynnal y canghennau hyn”.

'Cytundeb newydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post eu bod wedi cyhoeddi cynllun “trawsnewid” pum mlynedd a fydd yn “sicrhau cytundeb newydd i bostfeistri” gan eu rhoi wrth “galon y busnes”. 

“I wireddu’r cynllun” meddai, “mae Swyddfa’r Post yn ystyried amrywiaeth o opsiynau i hybu refeniw, hybu effeithlonrwydd a lleihau costau.”

Fel rhan o’r cynllun hwn, dywedodd eu bod yn ystyried cau’r canghennau sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol gan Swyddfa’r Post gan eu bod ar eu colled, ond nad oes “unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud eto ar unrhyw un o’r canghennau yma, gan gynnwys swyddfa Caernarfon”.

“Rydym am sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer dyfodol pob un o’n DMBs” (Directly Managed Branches) “gan helpu i gryfhau’r rhwydwaith er budd cwsmeriaid a phostfeistri.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.