Chwe Gwlad: Taulupe Faletau yn dechrau i Gymru am y tro cyntaf ers 2023
Mae Warren Gatland wedi gwneud dau newid i dîm Cymru i wynebu'r Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn.
Fe fydd Taulupe Faletau yn chwarae ei gêm ryngwladol cyntaf ers Hydref 2023 pan enillodd Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd.
Hefyd bydd Eddie James yn cychwyn am y tro cyntaf yn y crys coch yn y safle canolwr.
Collodd Cymru eu gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc nos Wener ddiwethaf ym Mharis.
43-0 oedd canlyniad y noson honno, y tro cyntaf i Gymru beidio sgorio pwyntiau mewn gêm yn y Chwe Gwlad ers 1998.
Fyddai nifer yn dadlau mai'r ornest yn erbyn Yr Eidal yw cyfle gorau Cymru i ennill yn y bencampwriaeth eleni.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1887442078667317330
Fydd y capten Jac Morgan a James Botham yn ymuno â Faletau y rheng ôl.
Y canolwr profiadol Nick Tompkins fydd yn bartner i Eddie James yng nghanol y cae.
Evan Lloyd, Henry Thomas a Gareth Thomas yw'r tri sydd yn cychwyn yn y rheng blaen, tra bod Will Rowlands a Dafydd Jenkins y tu ôl iddynt yn yr ail reng.
Josh Adams, Tom Rogers a Liam Williams sydd yn cwblhau tîm Cymru.
'Gwaith caled'
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland bod y garfan yn edrych ymlaen at yr her o wynebu'r Eidal.
"Mae'r wythnos yma wedi bod yn un pwysig ac mae llawer o waith caled wedi mynd mewn i ymarfer," meddai.
"Rydym ni eisiau bod yn gywir ac yn ddisgybledig ddydd Sadwrn. Fe fydd angen i ni wneud pethau'n iawn a rheoli'r gêm yn y ffordd gorau posib.
"Rydym ni'n gwybod bod Yr Eidal yn dîm o ansawdd da gyda chwaraewyr corfforol ac yn edrych am ornest da.
"Rydym yn gyffrous ar gyfer yr her ddydd Sadwrn."
Fe allwch chi wylio Cymru yn erbyn Yr Eidal yn y Chwe Gwlad ar S4C, S4C Clic neu BBC iPlayer am 14:15 ddydd Sadwrn.
Llun: Asiantaeth Huw Evans