Newyddion S4C

Pobl ‘ddiwrnodau i ffwrdd’ o golli eu swyddi heb gytundeb gyda'r Unol Daleithiau

Donald Trump as Keir Starmer

Roedd pobl “ddiwrnodau” i ffwrdd o golli eu swyddi heb y cytundeb masnach newydd rhwng yr Unol Daleithiau a’r DU, yn ôl Ysgrifennydd Masnach y DU.

Dywedodd Jonathan Reynolds wrth raglen Newsnight y BBC “ein bod mewn perygl o filoedd o bobl yn colli eu swyddi” heb gytundeb.

Fel rhan o'r cytundeb, cafodd trethi mewnforio'r Unol Daleithiau eu torri o 27.5% i 10%, tra bod y tariff o 25% ar ddur hefyd wedi'i dileu'n llwyr.

Mae’r tariff cyffredinol o 10% a gafodd ei osod ar fewnforion gan Donald Trump yn ei gyhoeddiad ar “Ddiwrnod Rhyddid” yn parhau, ond mae trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth y DU i’w llacio.

Dywedodd Reynolds wrth y BBC: "Roeddem mewn perygl o filoedd o bobl yn colli eu swyddi.

“Roedden ni’n agos iawn, iawn” meddai, mater o “ddyddiau”, ychwanegodd.

“Roedd hyn yn ddifrifol iawn, iawn, mae’n golygu y byddai pobl wedi colli eu swyddi heb y datblygiad arloesol hwn a byddai wedi bod yn ergyd economaidd wirioneddol i’r DU," meddai.

'Dechrau trafodaethau'

Dywedodd Jonathan Reynolds yn gynharach fod yr Unol Daleithiau yn farchnad bwysig i gwmnïau fel Jaguar Land Rover (JLR), Aston Martin a Bentley a bod tariff o 25% yn “gynnig busnes anodd iawn” mewn diwydiant cystadleuol.

Fe gafodd telerau cyffredinol y cytundeb eu cyhoeddi yn hwyr ddydd Iau.

Nodwyd bod y DU a’r Unol Daleithiau yn “dechrau trafodaethau” i “ddatblygu a ffurfioli cynigion” a gafodd eu gwneud.

Awgrymodd hefyd y gallai’r naill wlad neu’r llall “derfynu’r trefniant” yn y dyfodol gyda rhybudd ysgrifenedig, a’i fod yn bosibl ei newid ymhellach yn y dyfodol ar gais y naill ochr neu’r llall.

Cadarnhaodd Syr Keir Starmer a Donald Trump y cytundeb mewn sgwrs a gafodd ei darlledu yn fyw ar ddwy ochr yr Iwerydd brynhawn Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.