Newyddion S4C

Tŵr Grenfell yn Llundain i gael ei ddymchwel

06/02/2025
grenfell.png

Mae teuluoedd y bobl a fu farw yn y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain wedi cael gwybod y bydd yr adeilad yn cael ei ddymchwel. 

Bu farw 72 o bobl ac fe gafodd y tŵr o fflatiau, oedd yn gartref i fwy na 200 o bobl, ei ddinistrio ar 14 Mehefin 2017.

Bellach mae annwyliaid y rheiny a gafodd eu lladd wedi cael gwybod y bydd yr adeilad yn cael ei ddymchwel – ond mae pryderon ynglŷn â faint o deuluoedd gafodd wybod am y cynllun cyn i’r penderfyniad gael ei wneud. 

Fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog ag Ysgrifennydd Tai Llywodraeth y DU, Angela Raynor gyfarfod â phobl a oroesodd y trychineb a'u teuluoedd nos Fercher. 

Ond mae grŵp Grenfell United, sydd yn cynrychiol rhai o’r goroeswyr wedi dweud bod lleisiau'r rhai a ddioddefodd wedi cael eu “hanwybyddu.”

Mewn datganiad nos Fercher, dywedodd y grŵp: “Roedd Angela Raynor wedi methu â rhoi rheswm dros ei phenderfyniad i ddymchwel y tŵr. 

“Roedd hi wedi gwrthod cadarnhau faint o bobl mewn profedigaeth a goroeswyr y gwnaeth hi siarad â nhw yn ystod yr ymgynghoriad byr oedd yn bedair wythnos o hyd.” 

Mae disgwyl cadarnhad swyddogol ynglŷn â'r cynlluniau newydd erbyn diwedd yr wythnos. 

Teuluoedd 'wrth galon' y penderfyniad

Dywedodd llefarydd ar ran sefydliad Grenfell Next Of Kin, sef grŵp gwahanol sy’n cynrychioli goroeswyr a theuluoedd mewn profedigaeth, bod yr adeilad yn “gysegr” i nifer o frodydd, chwiorydd, mamau, tadau, partneriaid a phlant. 

Ond ychwanegodd eu bod yn “deall y ffeithiau caled ynghylch diogelwch” hefyd. 

Dywedodd llefarydd bod Ms Raynor wedi cyhoeddi y bydd y tŵr yn cael ei “ddymchwel yn ofalus.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU mai “blaenoriaeth” y Dirprwy Brif Weinidog oedd cyfarfod â’r rheiny a gafodd eu heffeithio gan dân Tŵr Grenfell er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am ei phenderfyniad. 

Dywedodd ei bod yn benderfynol o sicrhau bod eu lleisiau “wrth galon hyn.” 

Fe wnaeth adroddiad damniol i’r trychineb nodi y llynedd mai “degawdau o fethiannau” gan lywodraethau a'r diwydiant adeiladu oedd yn gyfrifol am y tân.

Ym mis Mai y llynedd fe ddywedodd yr heddlu ac erlynwyr y byddai angen hyd at ddiwedd 2025 i gwblhau eu hymchwiliad gan ddweud y bydd penderfyniadau terfynol ynglŷn â chyhuddiadau troseddol yn cael ei wneud erbyn diwedd 2026. 

Mae teuluoedd eisoes wedi disgrifio’r fath oedi yn “annioddefol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.