Prosiect twf ac adfywio Port Talbot i dderbyn £8 miliwn
Mae disgwyl i 100 o swyddi gael eu creu wedi i Lywodraeth y DU roi £8.2 miliwn ar gyfer prosiectau twf ac adfywio Port Talbot.
Bydd yr arian ar gyfer Hwb Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru (SWITCH), ac yn ôl y Llywodraeth, yn cynhyrchu mwy nag £87 miliwn yn y pen draw i economi De Cymru.
Bydd SWITCH yn ailddatblygu safle pedair erw yng Nglannau’r Harbwr, Port Talbot, er mwyn sefydlu Ardal Arloesi, sy’n anelu at gefnogi’r diwydiant dur a metel, yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi i leihau allyriadau carbon wrth gynhyrchu.
Daw’r cyllid o gronfa £80 miliwn Tata Steel / Bwrdd Pontio Port Talbot Llywodraeth y DU, sydd wedi cyhoeddi buddsoddiad o £51 miliwn i gefnogi gweithwyr dur unigol a busnesau yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel er mwyn diogelu swyddi a thyfu’r economi leol.
Y cyhoeddiad heddiw yw’r prosiect cyntaf i gefnogi twf ac adfywio’r rhanbarth, ac mae disgwyl i hyd at £30 miliwn gael ei roi i brosiectau twf ac adfywio eraill.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mewn chwe mis yn unig mae’r Bwrdd Pontio wedi cyhoeddi buddsoddiad o dros £50 miliwn i gefnogi gweithwyr dur unigol a’u teuluoedd, busnesau yn y gadwyn gyflenwi a bellach ar brosiect adfywio mawr ar gyfer y dref."
Ychwanegodd y bydd rhagor o filiynau o bunnoedd yn dilyn, a thra ei bod yn parhau i fod yn gyfnod heriol i weithwyr Tata, eu teuluoedd a’r gymuned, “rydym yn benderfynol o gefnogi ein cymunedau dur beth bynnag sy’n digwydd.”
Dywedodd ei bod am sicrhau bod gwaith yn mynd ymlaen yn gyflym i ddatblygu ystod o ymyriadau llesiant ac iechyd meddwl gan flaenoriaethu darparu cymorth iechyd meddwl i’r gymuned.
'Ysgogi twf'
Mae Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru (SWITCH) yn cynnal gwaith ymchwil i gefnogi’r broses o bontio datgarboneiddio diwydiannol, a bydd y cyhoeddiad hwn yn creu prif leoliad newydd ar gyfer SWITCH.
Bydd hyn yn ychwanegu at gyllid o £20 miliwn i’r cyfleuster o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd hefyd yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe y bydd SWITCH yn “trosoli hanes Prifysgol Abertawe o uno academia, diwydiant, awdurdodau lleol, a llywodraeth.”
“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn gwneud arbenigedd ymchwil ac arloesi Cymru hyd yn oed yn fwy hygyrch i fusnes a diwydiant, ac yn helpu i ysgogi twf economaidd, darparu cyflogaeth hirdymor a meithrin cymuned lewyrchus.”